Fe ddaw Elfyn Pritchard o Sarnau, Y Bala
|
Elfyn Pritchard o Sarnau, Y Bala yw enillydd cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen eleni.
Mae'n gyfarwydd â llwyfan y Brifwyl gan mai ef hefyd a enillodd y fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a'r Cyffiniau yn 2001.
Y beirniaid eleni oedd Sioned Davies, Marion Eames a Gwerfyl Pierce Jones.
Yn ôl yr arfer gofynnwyd am nofel heb ei chyhoeddi.
Mae Elfyn Pritchard yn derbyn Medal Goffa Daniel Owen a £5,000.
Roedd saith wedi ymgeisio eleni a dywedodd y beirniaid mai nofel Mr Pritchard oedd yn cyrraedd y brig gan ei fod yn waith mwy gorffenedig ac yn dangos aeddfedrwydd a disgyblaeth arbennig.
Syniad
Fe gafodd Mr Pritchard y syniad ar gyfer y nofel wrth iddo geisio ysgrifennu nofel arall a threulio deufis gyda honno ond heb fawr o lwc.
Yna fe gafodd ysbrydoliaeth ar gyfer y nofel hon a chafodd ei hysgrifennu mewn rhyw bedwar mis rhwng Awst a Rhagfyr.
Ei fwriad wrth ysgrifennu oedd llunio stori ddifyr a darllenadwy lle roedd y prif gymeriadau yn dylanwadu ar ei gilydd a lle roedd gorffennol pob un yn dylanwadu ar ei fywyd ef hefyd.
Eirwyn, athro ysgol uwchradd gwan, yw'r prif gymeriad ac mae dwy wraig yn dylanwadu ar ei fywyd sef ei wraig ei hun a'r ferch y mae yn ei chyfarfod.
Mae'r nofel yn ddarlun o'i berthynas gyda'r ddwy sy'n gwbwl wahanol i'w gilydd.
Cafodd Mr Pritchard ei eni ym mhentref Gwyddelwern a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Gwyddelwern, Ysgol Tý Tan Domen, Y Bala a Choleg y Brifysgol Bangor.
Yno graddiodd mewn Cymraeg a Hanes a derbyniodd dystysgrif athro.
Mae'n byw yn Y Sarnau ers dros 40 mlynedd, yn flaenor ac athro Ysgol Sul yng Nghefnddwysarn.
Mae wedi bod yn athro yng Nghorwen ac yn brifathro yn Y Sarnau a Ffridd y Llyn, Cefnddwysarn.
Bu'n Brif Swyddog Datblygol Cynllun y Porth Y Coleg Normal rhwng 1973 a 1977 cyn dod yn ymgynghorydd addysg gynradd yng Ngwynedd o 1982 hyd ei ymddeoliad ym 1993.
Llyfrau plant
Yn ddiweddar bu'n ail wampio Cynllun y Porth, sef cynllun Cymraeg i ysgolion cynradd, gan orffen y gwaith hwnnw cyn ysgrifennu'r nofel fuddugol.
Mae'n ysgrifennu llyfrau i blant a'r arddegau a hefyd yn cyfrannu erthyglau ac ysgrifau ar wahanol bynciau yn enwedig yn y maes addysg.
Mae'n Gadeirydd Panel Plant Cyngor y Celfyddydau ac aelod o'r Pwyllgor Llenyddiaeth ac yn Gadeirydd Panel llyfrau darllen CBAC.
Roedd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 1994 ac yn Is-Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau yn Y Bala ym 1997.
Mae wedi bod yn olygydd Allwedd y Tannau, Cylchgrawn Cymdeithas Cerdd Dant Cymru am 17 mlynedd.
Mae'n aelod o Lys a Chyngor yr Eisteddfod ac yn aelod o'r Orsedd yn dilyn ei lwyddiant yn cipio'r Fedal Ryddiaith yn Ninbych.