Trafod brwd: Cyfarfod UCAC
|
Mae undeb wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus i drafod argyfwng prinder athrawon cyfrwng-Cymraeg mewn ardaloedd gwledig.
UCAC sy wedi trefnu'r cyfarfod gynhelir yn y Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod fore Mawrth.
Y llynedd daeth i'r amlwg fod tair ysgol uwchradd ym Mhowys heb gyflogi athrawon cyfrwng-Cymraeg.
Roedd hyn yn golygu fod yr ysgolion yn torri'r gyfraith am fod y Gymraeg yn bwnc gorfodol hyd at 16 oed.
Er bod athrawon cyfrwng-Cymraeg wedi eu hapwyntio, mae'r undebau'n poeni y bydd problem yn y dyfodol.
Strategaeth
"Mae hon yn broblem genedlaethol," meddai Ysgrifennyd Cyffredinol UCAC, Edwyn Williams.
"Ond mae'n ymddangos ei bod yn waeth ym Mhowys.
"Mae athrawon ifanc yn symud o ardaloedd gwledig i lefydd fel Caerdydd," meddai.
Bu'n rhaid i Ysgol Uwchradd Llanidloes hysbysebu deirgwaith cyn apwyntio rhywun i swydd Gymraeg, meddai Mr Williams.
Mae'r undeb yn poeni am brinder athrawon cyfrwng-Cymraeg
|
"Mae angen cynllunio addysg gyfrwng-Cymraeg ym Mhowys ymlaen llaw a dylai'r Cynulliad ddatblygu strategaeth genedlaethol fel y gallwn recriwtio a chadw athrawon yn y swydd."
Dywedodd nad oedd disgyblion yn cael dysgu'r iaith yn ddigonol am fod ysgolion Powys yn wynebu problemau recriwtio.
Yn y cyfarfod mae Helen Mary Jones, Llefarydd Addysg Plaid Cymru, yn cyfeirio at "ddyletswydd" y Cynulliad i hyrwyddo dysgu a bydd yn amlinellu sut y gellir cynyddu nifer athrawon cyfrwng-Cymraeg.
Mae'r cyfarfod am un ar ddeg ddydd Mawrth ym Mhabell y Cymdeithasau.