BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 4 Awst, 2003, 16:32 GMT 17:32 UK
Gwobrau busnes yn y Brifwyl
Enillwyr y Gwobrau Menter a Busneslun
Cafodd yr enillwyr eu gwobrwyo ddydd Llun

Cafodd rhai o'r Cymry mwyaf mentrus a llwyddiannus eu gwobrwyo mewn seremoni arbennig ar lwyfan pafiliwn yr Eisteddfod ddydd Llun yng nghystadleuaeth Gwobrau Menter 2003.

Menter a Busnes sy'n trefnu'r gwobrau.

Maen nhw yn gwobrwyo siaradwyr Cymraeg sy'n llwyddo mewn busnes a busnesau llwyddiannus sy'n defnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg wrth gyfrannu at ffyniant yr economi yn eu hardaloedd.

Barcud Derwen, cwmni o Gaernarfon, a gafodd y Wobr Menter Cenedlaethol.

Mae Barcud Derwen yn darparu adnoddau ar gyfer pob math o raglenni gan gynnwys teledu, ffilm a chyfryngau newydd.

Nhw yw'r cwmni adnoddau teledu mwyaf y tu allan i Lundain.

Iaith

Mae'r cwmni yn gwerthu gwasanaeth dros Brydain ac mae'n berchen ar 11 o gwmnïau ar hyd Ynysoedd Prydain.

Mae'r wobr yn cael ei chyflwyno i gwmni sydd wedi dangos mentergarwch cryf, defnyddio a hyrwyddo'r Iaith Gymraeg a gwneud cyfraniad arwyddocaol i ffyniant yr economi yng Nghymru.

Glyn a Menna Heulyn , Gwesty'r Harbwr, Aberaeron a enillodd y Wobr Menter Twristiaeth.

Gwobr yw hon sydd yn cael ei roi i gwmni sy'n defnyddio a hyrwyddo'r diwylliant neu'r iaith Gymraeg wrth groesawu a denu ymwelwyr i Gymru.

Mae Gwesty'r Harbwr ar lan y cei yn Aberystwyth.

Fe wnaeth Glyn a Menna Heulyn waith helaeth i adnewyddu'r hen adeilad ac agorodd y gwesty y llynedd.

Meifod

Gwraig o Feifod, Kathy Gittings, aeth â Gwobr Menter Bro'r Eisteddfod.

Arlunydd a chyhoeddwr ydyw ac mae ei gwaith yn cael ei arddangos mor bell â Japan a'r Unol Daleithiau yn ogystal ag yn ei horiel ei hun ym Meifod.

Mae'r wobr yn cael ei roi i berson neu gwmni sy'n defnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg ac yn gwneud cyfraniad pwysig i'r economi ym mro'r Eisteddfod.

Lowri James o Aberystwyth a gipiodd y Wobr Menter Pobol Ifanc.

Mae Lowri yn berchen ar siop yn Aberystwyth, sef Dots, sydd yn gwerthu amrywiaeth o anrhegion ac addurniadau i'r cartref.

Mae'r wobr yn cael ei rhoi i berson neu grwp o bobol ifanc sy'n defnyddio a hyrwyddo'r Gymraeg wrth redeg busnes parhaol neu ran amser yn llwyddiannus mewn modd arloesol neu arbrofol.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^