Cafodd Mererid Hopwood ei choroni ddydd Llun
|
Mererid Hopwood sydd wedi cipio'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni a hynny ddwy flynedd wedi iddi gipio'r Gadair yn Eisteddfod Dinbych a'r Cyffiniau yn 2001.
Daw Ms Hopwood o Langynnwr, Caerfyrddin.
"Mae'r Goron yn hardd iawn," meddai.
"Mae'r plant yn edrych ymlaen at gymryd eu tro yn ei gwisgo.
"Ro'n i'n nerfus ofnadwy ac yn dwym a bydda i'n dathlu nawr.
"Sdim dowt am hynny."
Syml
Ar gyfer y gystadleuaeth eleni gofynnwyd am bryddest neu ddilyniant o gerddi ar y thema, Gwreiddiau.
Ymgeisiodd 45 yn y gystadleuaeth a'r beirniaid oedd Cyril Jones, Nesta Wyn Jones a Gerwyn Williams.
Penderfynodd y beirniaid mai gwaith Ms Hopwood oedd y gorau am iddi fynegi'r weledigaeth mewn modd mor feistrolgar o syml.
Mae'r gerdd wedi ei seilio ar yr honiad fod cariad yn rhoi "adenydd" a "gwreiddiau" i rywun ac mae'n archwilio'r tyndra rhwng y ddau beth.
Yn ogystal â derbyn Coron yr Eisteddfod sydd yn rhoddedig gan Gymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys, mae'r enillydd yn derbyn gwobr ariannol o £750.
Gwreiddiau
Cafodd Mererid ei geni a'i magu yng Nghaerdydd a bu'n ddisgybl yn ysgolion Bryntaf a Llanhari.
Ond mae gwreiddiau ei theulu yn nwfn yn Sir Benfro.
Graddiodd mewn Almaeneg a Sbaeneg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Wedyn derbyniodd radd doethur o Goleg y Brifysgol, Llundain.
Mae¿n byw yng Nghaerfyrddin gyda'i gwr Martin, ei merched Hanna a Miriam a'i mab Llewelyn.
Darlithydd rhan-amser yw hi ym Mhrifysgol Cymru Abertawe ac mae'n gweithio ar ei liwt ei hun.
Hi oedd y ferch gyntaf erioed i ennill y Gadair.