BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 3 Awst, 2003, 15:15 GMT 16:15 UK
Marw Norah Isaac
Yn 88 oed, bu farw un o ffigurau amlyca byd drama a llên Cymru, Norah Isaac.

Roedd wedi rhoi oes o wasanaeth i fyd theatr yng Nghymru ac yn arbennig felly i hyfforddi ac annog pobol ifanc i fentro i'r maes hwnnw.

Mi roedd Norah Isaac yn un o'r bobol hynny oedd yn medru ysbrydoli gyda'i hegni a'i brwdfrydedd.

Cafodd fywyd prysur yn dysgu, yn sgrifennu ac yn pwyllgora.

Iddi hi roedd prysurdeb yn ffordd o fyw.

Ganwyd Norah Isaac yng mhentref Caerau ger Maesteg yn yr hen sir Forgannwg.

Perfformio

Roedd ei gallu i berfformio yn amlwg yn gynnar iawn ac mi enillodd y gystadleuaeth adrodd dan 12 mlwydd oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cafodd ei haddysg yng Nghaerau ac yng Ngholeg Hyfforddi Morgannwg yn Y Barri.

Yn 1935 mi gafodd ei phenodi'n drefnydd sir Morgannwg gan Urdd Gobaith Cymru ac yno y bu hi nes iddi ddechrau gweithio fel prifathrawes yr ysgol Gymraeg gyntaf yn Aberystwyth yn 1939.

Mi roedd Norah Isaac yn un o arloeswyr addysg Gymraeg ac roedd hi'n rhannu gweledigaeth Syr Ifan ab Owen Edwards wrth deithio'r wlad yn ceisio sefydlu ysgolion newydd.

Treuliodd y rhan fwyaf o'r 1950au yn darlithio yng Ngholeg y Barri cyn symud i fod yn Brif Ddarlithydd Drama a'r Gymraeg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin gan ddylanwadu ar genedlaethau o fyfyrwyr.

Cyhoeddodd nifer o lyfrau gan gynnwys straeon byrion, bywgraffiad o Syr Ifan ab Owen Edwards, llyfr teithio am ymweliad â Brasil, yr Ariannin a Cholombia a nifer o ddramâu am gewri'r genedl fel Iolo Morgannwg, Griffith Jones a William Williams, Pantycelyn.

Cymrawd

Roedd hi, hefyd, yn gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol - yr unig ferch i gael yr anrhydedd - hi oedd prifathrawes ysgol Gymraeg gynta'r Urdd yn Aberystwyth.

"Roedd ei dylanwad yn amhosib i'w fesur," meddai Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru.

"Mi roedd ei dylanwad yn aruthrol arna i.

"Roeddech chi'n dod o bob un o'i darlithoedd yn gyfoethocach," ychwanegodd.

"Roedd yn ysbrydoli pobol ifanc gan ei bod yn credu y gallai pobol ifanc wneud cyfraniad," medd R Alun Evans, Llywydd Llys yr Eisteddfod Genedlaethol.

Hefyd:





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^