BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 3 Awst, 2003, 13:31 GMT 14:31 UK
Eisteddfod: Sadwrn prysuraf ers 1999
Maes yr Eisteddfod ym Meifod
Fe ddaeth 18,081 o bobol i'r Maes ddydd Sadwrn
Mae trefnwyr yr Eisteddfod yn hapus â'r nifer a ddaeth i ymweld â'r Wyl ddydd Sadwrn.

Fe ddaeth 18,081 o bobol i'r Maes a hwn oedd y nifer uchaf ers 1999.

Mae'r nifer yn llawer uwch nac Eisteddfod Dinbych pan ddaeth 14,105 i ymweld â'r Maes ar ddiwrnod cyntaf y brifwyl, a Thyddewi pan ddaeth 14,313 yno.

A chafwyd 11,091 ddydd Sul - 69 yn fwy na'r nifer ddaeth i Dyddewi'r llynedd.

Meddai Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod: "Fe ddaeth yna dyrfa deilwng iawn yma ddydd Sadwrn, yr uchaf ers 1999, roedd hyn yn oed yn uwch nac Eisteddfod Llanelli.

"O ystyried fod yna Sioe Amaethyddol yng Nghroesoswallt ddoe roedd yn ffigwr calonogol iawn."

Mae'r trefnwyr yn hapus â'r niferoedd a ddaeth i'r Cyngerdd Agoriadol nos Wener a Phasiant y Plant nos Sadwrn.

Fe ddaeth 2,399 i'r Pafiliwn nos Wener oedd yn uwch na Dinbych, lle y daeth 14,105 a Thyddewi, lle y daeth 14,313.

Meddai Elfed Roberts: "Mae'r ddau gyngerdd wedi cael ymateb da gyda thalentau lleol yn perfformio ar y ddwy noson."




HEFYD:
Eisteddfod: Sadwrn prysuraf ers 1999
03 Awst 03  |  Newyddion
Telynor yn perfformio adref
03 Awst 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^