BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 2 Awst, 2003, 17:45 GMT 18:45 UK
Owain yn cipio Tlws y Cerddor
Owain Llwyd

Enillydd Tlws y Cerddor eleni yw Owain Llwyd o Lyndyfrdwy, Corwen.

Y dasg eleni oedd llunio cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer unawd piano mewn unrhyw ffurf heb fod yn hwy na chwe munud.

Roedd 10 wedi ymgeisio yn y gystadleuaeth a'r beirniaid oedd Iwan Llywelyn-Jones a John Jones.

Roedd y ddau yn cytuno fod Owain yn haeddu'r wobr a bod y gwaith yn dangos arddeliad cadarn ac addewid bendant.

Mae'r gwaith yn gyfres o symudiadau wedi eu seilio ar gyfres o ddelweddau o leoedd yn ardal enedigol Owain.

Fe gyfansoddodd y gwaith yn ei lofft yn Neuadd John Morris Jones ym Mangor a hynny wythnos cyn y dyddiad cau.

Y dylanwadau cerddorol ar y gwaith yw Argraffiaeth, cerddoriaeth jazz a chyfansoddwyr fel Ravel, Charles Ives a Bartok.

Yn ogystal â derbyn Tlws y Cerddor, sydd yn rhodd gan Urdd Cerddoriaeth Cymru, mae Owain yn derbyn £500.

Ysgoloriaeth

Hefyd mae'n derbyn ysgoloriaeth gwerth £2,000 gan Sefydliad Cenedlaethol Cymru-America er mwyn hyrwyddo ei yrfa.

Mae Owain yn 19 oed ac fe gychwynnodd gyfansoddi pan oedd yn wyth oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Glyndyfrdwy.

O'r ysgol honno aeth i Ysgol y Berwyn y Bala lle y bu'n brif fachgen a dilyn cwrs Lefel A mewn Cerddoriaeth, Cymraeg, Mathemateg a Drama.

Yna aeth i Goleg y Brifysgol Bangor i astudio tuag at radd Bmus.

Ei brif offeryn yw'r piano ond mae hefyd yn chwarae'r ffidil a'r clarinet.

Fe enillodd Dlws y Prif Gyfansoddwr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Caerdydd a'r Fro 2002.

Mae wedi ennill yr unawd piano yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith yn olynol gan gipio'r Rhuban Glas Offerynnol i rai rhwng 16 a 19 oed yn Eisteddfod Tyddewi y llynedd.

Yn ogystal mae wedi ennill yn gyson yn adran cyfansoddi cerddoriaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ond dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu yng nghystadleuaeth Tlws y Cerddor.

Mae wedi sefydlu cwmni cyhoeddi cerddoriaeth o'r enw Cerdd AMOS Music gyda'i dad a'i frawd.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^