Fe wnaeth Ffred Ffransis ei sylwadau wrth gyhoeddi pamffled newydd ar Faes yr Eisteddfod
|
Mae Ffred Ffransis wedi galw ar Eisteddfotwyr canol oed i roi cefnogaeth ariannol hael i Gymdeithas yr Iaith.
Fe wnaeth ei sylwadau wrth gyhoeddi pamffled newydd ar Faes yr Eisteddfod.
Ffred Ffransis yw aelod hynaf senedd y Gymdeithas a galwodd ar y canol oed i roi cefnogaeth ariannol er mwyn helpu'r to ifanc i weithredu chwyldro newydd i ddiogelu'r iaith yn y ganrif newydd.
Yn y pamffled Chwyldro Parhaus mae Ffred Ffransis yn dadlau fod enillion "chwyldro cyntaf" chwedegau a saithdegau'r ugeinfed ganrif yn prysur ddiflannu.
Dywedodd mai "ffordd yw brwydr yr iaith a bod angen cam mawr ymlaen erbyn hyn.
'Cyfrifoldeb'
Ond dywedodd fod yn rhaid i'r arweiniad ddod gan y to ifanc sydd yn dal llawer o'r prif swyddi o fewn y Gymdeithas.
"Cyfrifoldeb y canol oed yw hyrwyddo'r ffordd ar gyfer y genhedlaeth newydd" meddai.
"Yn wahanol i sefydliadau eraill yng Nghymru, nid yw Cymdeithas yr Iaith yn derbyn grant tuag at ei waith.
"Pobol Cymru sy'n rhoi ein grant i ni a heb hynny ni all y chwyldro newydd ddigwydd" ychwanegodd.
Bydd yr arian a fydd yn cael ei godi yn cael ei ddefnyddio i gyllido Swyddog Maes a fydd yn gweithio yn bennaf ymhlith Cymry ifainc mewn ysgolion, colegau ac yn eu cymunedau.