BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 2 Awst, 2003, 15:10 GMT 16:10 UK
Mwy o gardiau 'heb gymorth'
Menna Medi
Mae Menna Medi yn falch eu bod wedi llwyddo i gynhyrchu mwy ar gyfer yr Eisteddfod

Mae cardiau cyfarch Cymraeg newydd gan Gyfres WAhanol ar gael Faes yr Eisteddfod ym Meifod.

Mae'r cwmni o'r gogledd wedi llwyddo i gynhyrchu mwy o gardiau a hynny heb gymorth ariannol ac ymarferol gan unrhyw gorff.

Menna Medi a'i nith Bethan Elin sy'n gyfrifol am y cwmni a chafodd y cwmni ei sefydlu wedi i Menna Medi ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod Dinbych.

Roedd y gystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o benillion addas ar gyfer cardiau cyfarch.

Wedi iddi ennill y gystadleuaeth penderfynodd yr hoffai barhau â'r gwaith ac felly fe ati i sefydlu cwmni cardiau gyda'i nith Bethan, sydd yn gwneud y darluniau.

Ar ôl mentro i gynhyrchu'r deunydd, doedd yna ddim cymorth."
Menna Medi
Ond mae Menna Medi yn siomedig nad yw'r cwmni wedi cael llawer o gefnogaeth wedi hynny.

Dywed nad yw'r Sefydliad wedi dangos unrhyw ddiddordeb wedi'r gystadleuaeth.

"Roeddwn i'n meddwl fod y Pwyllgor Llên wedi cynnal cystadleuaeth o'r fath er mwyn hybu'r dewis o gardiau Cymraeg sydd ddim ar gael" meddai Menna, "ond, ar ôl mentro i gynhyrchu'r deunydd, doedd yna ddim cymorth."

Er hyn bu'r ddwy yn ffodus o dderbyn cymorth ariannol a benthyciad di-log gan Fenter a Busnes ym mlwyddyn gyntaf y busnes.

Er nad ydyn nhw yn cael arian ganddyn nhw bellach mae Menter a Busnes yn parhau i gynnig cymorth ymarferol.

Mae Menna hefyd yn feirniadol o rai o'r siopwyr.

'Cwyno'

"Mae rhai siopwyr yn cwyno ein bod yn gwerthu ein cynnyrch ein hunain.

"Mae eraill isio gostyngiadau anhygoel ond yn barod i godi crocbris ar y cwsmer, a rhai'n anfodlon i brynu os nad ydyn nhw'n cael ecsgliwsif.

"Ond ar y cyfan mae siopwyr yn falch i gefnogi busnes gan ddwy Gymraes sy'n argraffu cardiau'n lleol ." meddai.

Er gwaetha'r problemau mae'r ddwy wedi ychwanegu 36 cynllun newydd at yr 20 gwreiddiol ac mae'r cardiau newydd ar werth ar Faes yr Eisteddfod.

Wedi'r wyl fe fyddan nhw ar werth yn y siopau.

Mae'r cardiau yn cael eu gwerthu mewn siopau trwy Gymru a chafodd Menna dipyn o sioc un diwrnod o glywed gan berthynas fod y cardiau ar werth mewn siop yn Iwerddon hyd yn oed a hynny'n ddiarwybod iddi.

Mae Cyfres WAhanol, a gafodd ei enw oherwydd bod Menna yn dod o Benllyn, yn cynnwys cardiau doniol a lliwgar at amryw o achlysuron.

Gobaith Menna Medi yw y bydd mwy o gardiau yn cael eu sefydlu ganddyn nhw y flwyddyn nesaf ac y bydd y cwmni yn gwneud digon o elw yn y pendraw i gyflogi gweithwyr.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^