BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 2 Awst, 2003, 14:36 GMT 15:36 UK
Prifwyl: Trefnwyr yn hyderus
Pafiliwn newydd
Mae gan yr Eisteddfod bafiliwn newydd

Mae disgwyl i filoedd o bobl heidio i Feifod yn Mhowys ddydd Sadwrn ar gyfer diwrnod cynta'r cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.

Cafodd y Brifwyl ei hagor yn swyddogol nos Wener.

Mae'r trefnwyr yn hyderus y bydd y tyrfaoedd yn heidio i Feifod.

Dywedodd y cyfarwyddwr, Elfed Roberts, mai dyma "un o safleoedd gorau'r Eisteddfod erioed".

"Mae'r rhagolygon yn dda iawn o ran y tywydd ac mae'r traffig yn dod yn ddi-broblem," meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd y Gogledd.

Dwi'n gweld hon hefyd yn Steddfod arloesol ac mae'r Steddfod yn gwneud ymdrechion i fod yn fwy cyfeillgar.
R. Alun Evans, Llywydd Llys yr Eisteddfod
Mae dros 400 o garafanau eisoes wedi cyrraedd y Maes Carafanau ac roedd dros 600 wedi gwneud cais am le.

Bydd elfennau newydd yn aros Eisteddfotwyr wedi iddyn nhw gyrraedd y Maes ym Meifod.

Mae'r Pafiliwn yn newydd ac mae'r trefnwyr wedi eu plesio gan ei fod yn ateb y gofynion priodol a'r rheolau tân.

Pafiliwn yw hwn wedi ei logi o'r Iseldiroedd a dyma'r tro cyntaf iddo gael ei godi ym Mhrydain.

Mae bron i 3,500 o seddau ynddo ac mae lle i ehangu eto.

Dywedodd Mr Roberts fod "nifer o bethau'n bosib yn y Pafiliwn" ac efallai y bydda'r Eisteddfod yn ystyried gosod stiwdio yno yn y dyfodol.

Croesawgar

Mae Theatr y Maes wedi cael pabell newydd a gobaith y trefnwyr yw y bydd y theatr newydd yn fwy croesawgar.

Datblygiad arall eleni yw defnyddio logo'r Eisteddfod yn lle logo lleol.

Y rheswm am hynny, meddai'r trefnwyr, oedd bod y logo lleol yn aml yn creu dryswch.

"Roedd Steddfod 1937 yn Eisteddfod arloesol gyda'r Cyngor yn cyfarfod ar ei ffurf newydd am y tro cyntaf, a dawns y blodau yn cael ei chynnal am y tro cyntaf," meddai R Alun Evans, Llywydd Llys yr Eisteddfod.

"Dwi'n gweld hon hefyd yn Steddfod arloesol ac mae'r Steddfod yn gwneud ymdrechion i fod yn fwy cyfeillgar.

"Mae hwn yn faes a fydd yn creu bwrlwm a diddordeb.

"Gobeithio y bydd miloedd yn dod yma, yn enwedig oherwydd y tywydd braf ganol yr wythnos," meddai.




HEFYD:
Gorsedd yn anrhydeddu Cymry
20 Meh 03  |  Newyddion
Colled Eisteddfod: Cyfarfod eto
06 Gorff 03  |  Newyddion
Eisteddfod: Trafod arbedion
05 Gorff 03  |  Newyddion
Eisteddfod mewn twll ariannol?
01 Gorff 03  |  Newyddion
Cadair deilwng o Glyndwr
25 Gorff 03  |  Newyddion
Coron yn darlunio bywyd bro
25 Gorff 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^