BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 2 Awst, 2003, 12:27 GMT 13:27 UK
'Angen £500,000 ym Maldwyn'
Baner
Logo'r Eisteddfod sydd ar y faner sy'n chwifio ar do'r Pafiliwn

Mae trefnwyr wedi dweud fod angen tua £500,000 ar yr Eisteddfod drwy werthiant tocynnau yn ystod yr wythnos.

"Efo £500,000 mi fyddwn ni'n gwenu yr adeg yma yr wythnos nesa," meddai Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod yn y Gogledd.

Byddai hyn yn golygu fod yn rhaid i tua 165,000 o bobol ymweld â'r Maes yn ystod yr wythnos.

"Pe bai o gwmpas 160,000 i 165,000 o bobol yn dod yma, fe fyddai sefyllfa ariannol yr wyl yn weddol," meddai Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts.

Eleni mae'r Eisteddfod yn costio £2.5m.

Er mwyn codi arian, cafodd 40 o bwyllgorau apêl lleol eu sefydlu, gan gynnwys rhai dros y ffin.

Pe bai o gwmpas 160,000 i 165,000 o bobol yn dod yma, fe fyddai sefyllfa ariannol yr wyl yn weddol
Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod
Bu Croesoswallt, yr Amwythig, Stoke on Trent, Wolverhampton, Newcastle Under Lyme a Birmingham yn codi arian.

Gofynnwyd i'r pwyllgorau lleol godi £201,000 ond llwyddon nhw i godi £240,000.

Gosodwyd targed o £21,000 i'r pwyllgorau dros y ffin a llwyddon nhw i godi mwy.

Derbyniodd yr Eisteddfod £310,000 oddi wrth Gyngor Sir Powys.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^