BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 4 Awst, 2003, 10:13 GMT 11:13 UK
'Defnyddiwch stamp y Ddraig'
Stamp y Ddraig
Dyw stampiau'r Ddraig ddim ar gael yn gyffredinol
Bydd Golwg ar Bost Cymru yn galw ar bobol i ddefnyddio'r stamp Cymreig sydd â llun Draig arno ar gefndir gwyrdd.

Gofynnir i rai sy'n galw heibio eu stondin ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol i gefnogi ymgyrch i'w gwneud yn haws cael gafael ar y stampiau hyn.

Ar hyn o bryd, does dim modd prynu llyfr o'r stampiau.

Dywedodd y Post Brenhinol y dylai'r stampiau hyn fod ar gael ymhob man yng Nghymru ond mae rhai wedi cwyno nad yw hyn yn digwydd.

"Rwyn sïwr y bydd Eisteddfodwyr yn cefnogi ein hymgyrch yn gryf," meddai Cadeirydd Golwg ar Bost Cymru Eifion Pritchard.

"Gall defnyddio'r stampiau hyn fod o fudd i fusnesau bychain, yn arbennig ym maes twristiaeth.

"Mae Llywodraeth y Cynulliad a'r Awdurdod Datblygu o blaid y stampiau hyn ac rydyn ni'n credu'n gryf mai y nhw ddylai fod y stampiau safonol ar gyfer Cymru."




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^