Mae ardal yr Eisteddfod yn enwog yn hanes Cymru
|
Fe fydd Eisteddfotwyr yn cael y cyfle i glywed acen arbennig Sir Drefaldwyn yr wythnos nesaf pan fyddan nhw'n heidio i Faes yr Eisteddfod ar dir fferm Mathrafal ym Meifod.
Mae'r ardal yn enwog yn hanes Cymru ac yn cael ei chysylltu ag Ann Griffiths.
Ond beth yw sefyllfa'r Gymraeg y cylch erbyn hyn?
Mae Emyr Davies wedi byw yn ardal Dolannog ar hyd ei oes.
"Mae'r Gymraeg yng nghefn gwlad yn eithaf cryf. Mae'r diwydiant amaethyddol wedi bod yn Gymreig erioed.
"Y lleoedd sy'n dioddef ydi'r pentrefi a'r trefi. Mae'r rhain yn prysur droi'n Seisnig.
Cyngor
"Ond mae cnewyllyn cryf o Gymreictod ym Maldwyn o hyd a hynny yn Nyffryn Banw, Dyffryn Tanat a Dyffryn Efyrnwy i fyny o Ddolannog, drwy Llwydiarth, Llanfihangel a Llanwyddyn yn dal i fod yn ardaloed lle mae'r Gymraeg yn gryf."
Gyda'r tyrfaoedd yn heidio i'r ardal mae gan Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod gyngor i'r teithwyr: "Y cyngor yn syml yw dilyn pob arwydd gyda'r gair Eisteddfod ac mae hwnnw i'w weld bellter o'r maes ym Meifod ac yn gyffredinol rydym yn arwain pobol ar hyd tair ffordd" meddai.
Er bod yr Eisteddfod yn cael ei chynnal mewn ardal wledig nid yw Mr Edwards yn rhagweld y bydd yna broblemau mawr o ran trafnidiaeth.
"Dyma'r tro cyntaf i ni ddefnyddio tri maes parcio. Rydym wastad wedi defnyddio un neu ddau ond y tro yma rydym yn rhannu'r traffig yn dri ac felly dwi'n gobeithio y bydd hynny'n lleddfu tipyn ar faint y traffig" meddai.
Croeso
Mae Glyn Williams, Is-Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith a Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn disgwyl y bydd croeso mawr yn aros y rhai a fydd yn ymweld â Meifod.
"Fe fydd yna groeso twymgalon iawn ym Maldwyn does dim dwywaith am hynny. Mae yna baratoi helaeth wedi bod ac mae'n bleser gan bobol Maldwyn cael croesawu'r Eisteddfod yma eleni.
"Mae'r casglu arian wedi mynd yn wych. Roedd gennym darged o
£21,000 ond dwi'n falch o ddweud ers ychydig wythnosau roedden ni wedi cyrraedd £235,000 ac felly mae hynny wedi bod y hwb aruthrol.
"Ond rhywbeth arall sydd wedi rhoi boddhad mawr ydi ein bod wedi cael cyfraniad o bob ardal oddi mewn i dalgylch yr Eisteddfod, sef o leiaf 47 o whanol ardaloedd.
"A'r hyn sydd wedi rhoi boddhad yn fwy na dim oedd fod ardaloedd yn Lloegr wedi cyfrannu yn helaeth iawn tuag at gyllid yr Eisteddfod hefyd."