Mae gan yr Eisteddfod bafiliwn newydd
|
Mi fydd cysgod problemau ariannol dros Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn dilyn colled o yn agos at £200,000 yn Nhyddewi y llynedd.
Mae'r wyl, sy'n costio £2.5 miliwn y flwyddyn, yn ystyried nifer o ffyrdd i arbed arian, gan gynnwys cau'r feithrinfa a chael gwared o Maes B, sef canolbwynt gweithgareddau ieuenctid.
Ni fydd y toriadau yn effeithio ar yr Wyl eleni ac mi fydd yr wyl gelfyddydol deithiol fwyaf yn Ewrop yn dathlu diwylliant a iaith ar safle hanesyddol.
Mae'r Maes yn Mathrafal, rhwng Pontrobert a Meifod, yn gyn-gartref i Dywysogion Powys yn y Canol Oesoedd.
Mae 45 o feridd wedi cystadlu am Goron Eisteddfod Maldwyn
|
Bydd ymwelwyr yn sylwi ar un newid ar unwaith wrth weld y pafiliwn sydd wedi dod o Amsterdam ac sydd wedi cael ei ddefnyddio fel Big Top ar gyfer syrcas.
Mae hi'n addo bod yn flwyddyn arbennig o ran y nifer o bobol sy'n cystadlu, gyda'r 20 o fandiau pres yn chwarae ar y dydd Sadwrn agoriadol.
Os bydd 'na deilyngdod yng nghystadleuaeth y Gadair eleni, bydd yn bridodol fod y bardd buddugol yn eitha tal oherwydd mae'r Gadair ei hun, sydd wedi ei chynllunio gan Robert Morgan o Lanbrynmair, yn sefyll wyth troedfedd o'r llawr.
Mae'r Goron eleni yn crisialu natur y fro mewn metal sgleiniog a'r cynllunydd John Pryce o Fachynlleth wedi adlewyrchu'r tirwedd, hanes Owain Glyndwr a'r emynwyr lleol yn y cynllun.
Yn ystod yr wythnos bydd rhai o enwogion y genedl yn cael eu hanrhydeddu drwy ymuno â'r Orsedd, gan gynnwys yr actor Ioan Gruffudd, y bardd a'r ymgyrchydd iaith, Dafydd Morgan Lewis, a'r darlledwr, Sulwyn Thomas.