|
Catrin Jones
BBC Cymru'r Byd
|
Bydd Eifion Lloyd Jones yn areithio yn yr Eisteddfod ddydd Mawrth
|
Dylanwad y Saesneg ar iaith y cyfryngau yng Nghymru fydd yn cael sylw Eifion Lloyd Jones, Pennaeth Adran Cyfathrebu a'r Cyfryngau, Prifysgol Cymru Bangor, yn ei araith ddydd Mawrth.
Teitl yr araith yw 'Iaith Pawb ond Cyfrwng Pwy? Gormes y Saesneg ar y Cyfryngau Cymraeg,' a bydd yn dweud ei fod yn pryderu am safon iaith mewn rhaglenni radio a theledu Cymraeg.
Mae'n areithio i Gylch yr Iaith ym Mhabell y Cymdeithasau ar Faes yr Eisteddfod.
Pryderu am safon iaith rhaglenni newyddion a chwaraeon y mae'n bennaf a dywed ei fod yn pryderu am ohebwyr ifanc.
Ond mae'n cydnabod fod y broblem yn deillio i raddau helaeth o'r gyfundrefn addysg.
 |
Mae patrwm y gyfundrefn addysgol ...yn golygu nad yw Cymry Cymraeg naturiol yn cael y cyfle i ymarfer siarad yr iaith
|
Mynegodd ei bryderon am y gyfundrefn yn ei araith fel Llywydd y Dydd yn Eisteddfod Dinbych yn 2001.
Yn ei araith galwodd ar ysgolion Cymraeg i fod yn ymwybodol o beryglon agor y drysau i'r di-Gymraeg.
"Er budd y Gymraeg a'i dysgwyr, mae'n bryd ystyried o ddifrif faint o ddysgwyr y gellir eu derbyn i'n hysgolion ni," meddai yn Ninbych.
Wrth sôn am iaith y cyfryngau eleni, meddai: "Mae bai ar y gyfundrefn addysg bresennol.
"Mae patrwm y gyfundrefn addysgol yng Nghymru yn golygu nad yw Cymry Cymraeg naturiol yn cael y cyfle i ymarfer siarad yr iaith oherwydd gorfodaeth gan eu cyfoedion i siarad Saesneg.
"Felly dydyn nhw ddim yn arfer siarad Cymraeg."
Mae'n credu fod gormod o Saesneg yn cael ei ddefnyddio mewn rhai adroddiadau newyddion.
'Cyfieithiaith'
Cyfeirio y mae yn bennaf at yr adroddiadau gwleidyddol, yn arbennig yr adroddiadau o'r Cynulliad Cenedlaethol.
"Cymraeg llafar naturiol sydd ei angen ac nid bratiaith, cymysgiaith a chyfieithiaith," meddai.
 |
Mae dyletswydd ar y cyfryngau i gynnal safon ac mae cyfrifoldeb arnyn nhw i warchod a gofalu am yr iaith
|
Mae'n fodlon derbyn fod adegau lle gellir cyfiawnhau dyfyniad Saesneg gan unigolyn allweddol i unrhyw stori ond eithriadau prin ddylai'r rhain fod, meddai.
Mae Eifion Lloyd Jones yn pwysleisio hefyd ei bod yn anodd cyfiawnhau unrhyw ddefnydd o Saesneg mewn rhaglenni ffeithiol.
Ond mae'n cydnabod fod eithriadau prin lle gellir gwneud hynny mewn dramâu lle mae'r cymeriad Saesneg yn hanfodol i gynnwys y stori.
Yn ei araith bydd yn dweud mai safon iaith ddylai'r cymhwyster pwysicaf fod wrth benodi pobol i'r cyfryngau Cymraeg a dywed y gellir dysgu popeth arall i'r unigolyn.
"Yna wedi penodi mae cyfrifoldeb ar yr unigolyn a'i gyflogwr i hyfforddi a gwarchod a sicrhau safon addas.
'Cyfrifoldeb'
"Dwi'n credu fod gan y cyfryngau gyfrifoldeb i wneud mwy nac adlewyrchu cymdeithas yn unig.
"Y cyfryngau yw capel y genhedlaeth yma.
"Lle bu'r capel yn gwarchod safon iaith, y cyfryngau sy'n gwneud hynny bellach," meddai.
Mae Mr Lloyd Jones yn credu mai eithriadau bellach yw'r bobol ifanc sy'n gallu siarad Cymraeg llafar naturiol.
Dywed fod y pwll o ymgeiswyr sydd gan y cyfryngau i ddewis ohono yn lleihau yn barhaus ac mae'n pryderu na fydd digon ar ôl o ymgeiswyr gyda Chymraeg llafar graenus ar ôl yn y dyfodol agos.
"Mae dyletswydd ar y cyfryngau i gynnal safon ac mae cyfrifoldeb arnyn nhw i warchod a gofalu am yr iaith.
"Ond y gyfundrefn addysgol ddylai ddechrau'r gwaith o warchod y Gymraeg," meddai.
Beth yw'ch barn chi? Ebostiwch hi i Cymru'r Byd
drwy glicio yma.