BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 31 Gorffennaf, 2003, 16:30 GMT 17:30 UK
Grant i adnewyddu regalia'r Orsedd
Robyn Lewis yr Archdderwydd
Bydd modrwy a choron yr Archdderwydd yn cael eu hadnewyddu
Fe fydd regalia Gorsedd y Beirdd yn cael eu hadnewyddu gyda chymorth grant o bron i £50,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Mae'r Regalia yn cael eu gwisgo gan aelodau'r Orsedd yn ystod prif seremonïau'r Eisteddfod.

Fe fydd grant o £49,800 gan y Gronfa Dreftadaeth yn talu am y gwaith cadwraeth sydd ei angen ar y cleddyfau, y medalau a modrwy a choron yr Archdderwydd.

Hefyd bydd yn cynorthwyo i greu cynlluniau ychwanegol i alluogi'r cyhoedd i ddod i wybod mwy am hanes yr Orsedd a chael gweld y gwisgoedd eu hunain.

Meddai Betsan Williams, Swyddog Cysylltiadau Allanol yr Eisteddfod: "Fe fydd derbyn grant y loteri oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn sicrhau y gellir adnewyddu regalia yr Orsedd i'w gogoniant blaenorol ac y gellir eu defnyddio yn hyderus mewn Eisteddfodau yn y dyfodol.

"Yn ogystal, fe fydd gweithdai a phrosiectau yn sicrhau y gall pobol o bob cwr o Gymru ac o bob oedran ddysgu mwy am Orsedd y Beirdd - sy'n rhan bwysig o ddiwylliant Cymru."

Fe fydd y regalia presennol yn ymddangos am y tro olaf yn Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau cyn cael eu hadnewyddu.

Bydd arddangosfa sefydlog yn cael ei sefydlu yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, er mwyn arddangos y gwisgoedd drwy gydol y flwyddyn a bydd Cd rom amlgyfyngol yn cael ei greu hefyd gyda'r arian.

Fe fydd derbyn grant y loteri oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn sicrhau y gellir adnewyddu regalia yr Orsedd i'w gogoniant blaenorol .
Betsan Williams, Swyddog Cysylltiadau Allanol yr Eisteddfod
Meddai Jennifer Stewart, Rheolwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri dros Gymru: "Prin iawn yw'r eitemau sy'n symbol mor gryf o dreftadaeth Cymru, maent yn ein hatgoffa o draddodiad eisteddfodol sy'n rhychwantu mwy nag 800 mlynedd.

"Mae gwisgoedd yr orsedd wedi eu defnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn, mewn Eisteddfodau ers diwedd yr 1880au, a dyma'r tro cyntaf i unrhyw waith cadwraeth ac adnewyddu go iawn gael ei wneud arnynt."

"Yr ydym yn neilltuol o falch y bydd ein grant yn cynorthwyo'r cyhoedd i weld y gwisgoedd drwy gydol y flwyddyn yn ogystal" ychwanegodd.




HEFYD:
Gorsedd yn anrhydeddu Cymry
20 Meh 03  |  Newyddion
Cyfraniad Cymry i'r Pethe
20 Meh 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^