Mae busnesau lleol yn poeni na fyddan nhw'n elwa o ymweliad yr Eisteddfod â'r ardal
|
Mae pryder y gall cau ffordd yn y canolbarth gael effaith niweidiol ar ardal yr Eisteddfod.
Mae gwaith atgyweirio wedi dechrau ar ran o'r A483, rhyw hanner ffordd rhwng y Drenewydd a Llandrindod, ac o ganlyniad fe fydd y ffordd ar gau i bob math o gerbydau hyd ddechrau Medi.
O ganlyniad fe fydd y cerbydau a fyddai fel arfer yn teithio drwy Landrindod, Crossgates, Llanddewi a Llanbadarn Fynydd tua'r Drenewydd yn cael eu dargyfeirio o Lanelwedd drwy Rhaeadr a Llanidloes.
Fe fydd yn rhaid i'r bobol hynny a fydd yn teithio i'r Eisteddfod o'r de felly barhau ar hyd yr A470 o Lanelwedd yn hytrach na theithio drwy Landrindod ac ar hyd yr A483 i'r Drenewydd.
Mae'r penderfyniad i gau'r ffordd yn ystod gwyliau'r haf wedi codi gwrychyn rhai o bobol fusnes yr ardal.
Meddai Trisha Armstrong o dafarn y New Inn, Llanbadarn Fynydd: "Mae'n gwbwl hurt fod y Cynulliad wedi penderfynu cau'r ffordd yn awr.
"Mae 75% o'n masnach yn ystod mis Awst yn ymwneud â thwristiaeth a thrafnidiaeth sydd yn mynd heibio'r dafarn ac yn awr mae gen i ofn na fyddwn ni'n cael unrhyw fusnes o gwbwl.
"Ar hyn o bryd mae'r holl drafnidiaeth wedi ei ddargyfeirio fel nad ydyn nhw yn mynd trwy Landrindod ac felly fe fydd economi'r dyffryn cyfan yn dioddef ac mae'r Cynulliad wedi anwybyddu ein pryderon yn llwyr."
Buddsoddi
"Dyma uchafbwynt y tymor gwyliau ac wedi argyfwng clwy'r traed a'r genau rydym ni wedi buddsoddi £35,000 i wella'r dafarn, gan fuddsoddi yn y bar ac adeiladu maes parcio newydd a nawr fyddwn ni ddim yn gallu elwa o'r buddsoddiad hwnnw."
"Dim ond unwaith y bu'r Cynulliad yn trafod â'r Cyngor Cymunedol ac mae anghenion y busnesau lleol wedi eu hanwybyddu yn llwyr" meddai.
Dywedodd Yvonne Mckay o dafarn y Builders Arms, Crossgate fod y datblygiad yn achosi "pryder mawr" iddi hithau hefyd.
"Dydw i ddim eisiau iawndal, dim ond cyfle i weithio. Rydw i am weld arwydd yn cael ei osod yn y Drenewydd a Llanfair ym Muallt yn dweud y bydd trafnidiaeth ysgafn yn cael caniatâd i deithio ar y ffordd" meddai.
Fe fu Andrew Davies, Gweinidog Datblygu Economaidd y Cynulliad, yn cyfarfod pobol fusnes yr ardal ddydd Mercher er mwyn trafod eu pryderon ac i weld a oedd yn bosib dargyfeirio trafnidiaeth ysgafn fel eu bod yn parhau i ddefnyddio'r A483.
Dywedodd Ms Armstrong eu bod yn parhau i ddisgwyl am unrhyw wybodaeth bellach gan y Cynulliad.
Doedd neb ar gael yn y Cynulliad i roi sylw ar y mater.
Cefnogi
Yn y cyfamser mae AS lleol Brycheiniog a Maesyfed, Roger Williams, wedi datgan ei fod yn cefnogi ymdrechion y busnesau lleol sy'n cael eu heffeithio i gael cymorth gan y Cynulliad.
Mae wedi cysylltu ag Andrew Davies i bwyso am gymorth.
Dywed Mr Williams fod nifer o bethau y gellir eu gwneud i leihau'r niwed i fusnesau lleol.
Mae am weld newidiadau i'r trefniadau sy'n bodoli ar hyn o bryd ynglyn â dargyfeirio trafnidiaeth.
Dywed fod modd i gerbydau ysgafn barhau i ddefnyddio'r A483 o Crossgates i'r Drenewydd gan fodd ffordd fechan o Lanbadarn Fynydd sydd yn ymuno â'r A483 yn Dolfor.
"Fe ddylai'r arwyddion dargyfeirio nodi'n glir fod y ffordd yma ar gael i drafnidiaeth ysgafn ac rydw i wedi gofyn i Andrew Davies fel Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth i wneud y newidiadau priodol i'r arwyddion" meddai.