BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 31 Gorffennaf, 2003, 10:07 GMT 11:07 UK
'Mwyafrif o blaid' Eisteddfod grwydrol
Maes yr Eisteddfod
Mae 83% o'r rhai a ymatebodd am i'r Eisteddfod barhau i deithio

Mae arolwg a gafodd ei gomisiynu gan S4C yn awgrymu fod y mwyafrif o Eisteddfotwyr yn gwrthwynebu cynnal yr Eisteddfod ar safle parhaol.

Cafodd yr arolwg ei wneud gan NOP a'i drefnu gan gylchgrawn gwylwyr S4C sef Sgrîn.

Mae wedi ei seilio ar ymateb 271 o siaradwyr Cymraeg a gytunodd i ateb ystod eang o gwestiynau ar ddyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae'r arolwg yn dangos fod 83% o'r rhai a ymatebodd am i'r Eisteddfod barhau yn wyl deithiol sy'n ymweld â gwahanol ardaloedd yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae'r arolwg yn dangos hefyd fod 57% o'r rhai a ymatebodd yn gwrthwynebu gwerthu alcohol yn yr wyl ac am gadw'r Maes yn sych.

Roedd cwestiwn arall yn ymdrin â'r awgrym y dylai'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd gyfuno eu hadnoddau i drefnu un wyl ar yr un safle, ar yr un pryd er mwyn datrys y problemau ariannol sy'n wynebu'r Eisteddfod.

Ond roedd 75% o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg yn gwrthwynebu hyn.

Rheol iaith

Roedd 49% yn gwrthod y cynnig i leoli'r ddwy Eisteddfod ar un safle ond ar adegau gwahanol o'r flwyddyn a dim ond 42% yn ei ffafrio.

Roedd cwestiwn wedyn yn ymwneud â'r rheol sydd yn nodi mai Cymraeg yn unig a ddylai gael ei defnyddio ar lwyfan y Brifwyl.

Nid oedd y mwyafrif am ganiatáu i unrhyw iaith arall, hyd yn oed ieithoedd Celtaidd, i gael eu defnyddio.

Meddai Owain Pennar, aelod o dîm golygyddol Sgrîn: "Fe gynhaliwyd yr arolwg i ysgogi trafodaeth ar fater sydd o bwys mawr i'n gwylwyr.

"Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos fod pobol yn parhau yn reit geidwadol pan mae'n dod i un o'r sefydliadau mwyaf gwerthfawr yng Nghymru, er bod yr ymateb o blith y to ifanc yn awgrymu eu bod yn fwy agored i newidiadau.

"Gobeithiwn y bydd canlyniadau'r arolwg hwn o fudd i'r Eisteddfod genedlaethol wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol."

Bydd y canlyniadau'n llawn yn cael eu datgelu ar raglen Wedi 7 ar S4C nos Iau.




HEFYD:
Dadl rheol dim alcohol yn parhau
29 Gorff 03  |  Newyddion
Eisteddfod mewn twll ariannol?
01 Gorff 03  |  Newyddion
Eisteddfod yn gwneud colledion
11 Meh 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^