BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 3 Awst, 2003, 16:55 GMT 17:55 UK
Yr Eisteddfod yn dod adref
Beryl Jones
Mae Mrs Jones wedi bod yn edrych ymlaen i groesawu ei phlant adref

Mae wythnos yr Eisteddfod yn un arbennig i Beryl Jones o Feifod.

Nid yn unig y mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ar dir ei chartref ond mae hefyd yn croesawu ei phlant i gyd adref o bob cwr o'r byd gydag un o'i meibion yn perfformio mewn cyngerdd yn y pafiliwn.

Mae Ieuan Jones yn Athro ar y Delyn yn y Coleg Brenhinol yn Llundain a bydd yn perfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn y pafiliwn nos Sul.

Bydd ei meibion eraill sef Marc, sydd yn gweithio yn Hong Kong, a Cledwyn, sydd yn gweithio gyda chwmni cyfrifiadurol yn Llundain, yn dychwelyd adref i dreulio amser gyda'u mam a'u chwaer Nerys sydd yn gyfreithwraig yn Y Trallwng.

Mae Mrs Jones wedi bod yn edrych ymlaen i gael croesawu'r plant adref ond mae'r achlysur yn drist hefyd gan y bu ei gwr, y diweddar David Jones, farw fis Gorffennaf 2001.

"Fe fydd yn hyfryd gweld y plant i gyd yn dod adref ond mae'n biti na fuasai eu tad yma i gael gweld y cyfan," meddai.

Gosod

"Fe gytunodd y ddau ohonom ni i osod y tir i'r Eisteddfod bum mlynedd yn ôl a dwi'n cofio David yn dweud yr adeg honno y byddai'n braf i bwy bynnag oedd yma i weld popeth."

Mae 300 acer o dir yn perthyn i fferm Mathrafal ac mae'r teulu wedi bod yn byw yma ers 60 mlynedd.

Mae Mrs Jones wedi darparu 160 acer i'r Eisteddfod ac mae'r wyl yn rhentu'r tir o fis Mai tan fis Hydref.

Meddai Mrs Jones "Nid yw'r tir yn agored i lifogydd ac felly gydag ychydig o dywydd da fe ddylai'r Eisteddfod fod yn llwyddiant mawr.

"Fe fydd yn braf croesawu'r teulu yma yn ystod yr wythnos gan nad oes dim rhaid i mi wneud dim bellach ond mwynhau'r Eisteddfod" meddai.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^