Mae rhai yn poeni y gallai darparu alcohol arwain at broblemau
|
Parhau y mae'r ddadl ynglýn â gwerthu alcohol ar Faes yr Eisteddfod wedi i Glyn Davies, AC Canolbarth a Gorllewin Cymru, alw am newid y rheolau ddydd Llun.
Galwodd Mr Davies am newid y rheolau er mwyn caniatáu i win fod ar gael yn Eisteddfod 2004.
Mae Mr Davies, sydd yn byw ger Mathrafal lle y cynhelir yr Eisteddfod eleni, yn derbyn nad Maldwyn fyddai'r lle gorau i ganiatáu alcohol ar y Maes am y tro cyntaf oherwydd traddodiad dirwestol yr ardal.
Ond mae yn credu y dylid newid y rheolau erbyn Eisteddfod Casnewydd ac yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni fe fydd yn gosod yr awgrym hwnnw gerbron y trefnwyr.
Meddai: "Dwi wedi bod yn perswadio pobol i ddod i'r Eisteddfod ac mae rhai yn dweud fod delwedd yr wyl ychydig yn hen ffasiwn."
"Dydw i ddim am weld pobol ifanc yn cerdded o gwmpas gyda chaniau o gwrw ond siawns nad oes dim o'i le gyda darparu gwin mewn derbyniadau ar y Maes.
"Dylid cymryd un cam ar y tro os y bydd gwin ar gael mewn derbyniadau yna fe fydd pawb yn gweld nad oes problem a gellid cael bar wedyn."
Ond mae'r sylwadau hynny wedi codi gwrychyn amryw o bobol sydd am weld y rheol sy'n gwahardd alcohol ar y Maes yn parhau.
Un o'r rhain yw Elfed Roberts o Benrhyndeudraeth. Mae ef yn poeni y gall caniatáu alcohol arwain at broblemau.
Poeni
"Mae gormod o bobol yn gaeth i alcohol yn barod ac nid rhagor o gyfle i yfed sydd ei angen ond llai ohonyn nhw.
"Byddai ychwanegu cyfle arall ar faes yr Eistddfod yn gamgymeriad yn fy marn i a dwi'n credu fod caniatáu bar ar Faes B hefyd yn gamgymeriad.
"Mae unigolion yn dioddef am eu bod yn gaeth i alcohol, mae teuluoedd yn dioddef, ac mae yna bobol sy'n dioddef anuniongyrchol o fedd-dod eraill.
"Fe all caniatáu alcohol ar y Maes arwain rhywun arall ar y llwybr i fod yn gaeth" meddai.
Mae Elis Wyn Roberts, Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfod Cymru, hefyd yn poeni am y problemau allai ddeillio o ganiatáu alcohol ar y Maes.
"Mae alcoholiaeth yn achosi problemau mawr iawn ac mae posibilrwydd i bethau eraill dod ynghlwm ag o.
"Rhaid ystyried ai dyma'r ffordd ymlaen i'r Eisteddfod mewn gwirionedd. Alla i ddim credu y bydd caniatáu alcohol yn dod â mwy o bobol i Faes yr Eisteddfod."
Cytuno â barn Glyn Davies fod angen i'r Eisteddfod newid ei delwedd mae R. Alun Evans, Llywydd Llys yr Eisteddfod.
'Dwy gymdeithas'
Ond yn wahanol i Mr Davies nid yw'n cytuno y dylid darparu gwin mewn derbyniadau yn unig.
"Dydw i ddim o blaid gweld gwin yn y derbyniadau a dim i neb arall gan y byddai hynny'n creu dwy gymdeithas, y ni a nhw. Os ydyn mi am ei gael o gwbwl yna dylid ei gael i bawb.
"Dwi'n gwybod am lawer o bobol sy'n credu fod yr Eisteddfod yn hynod yn y ffaith nad ydyw yn gwerthu alcohol ond yn bersonol does gen i ddim problem gyda'r mater.
"Mae Maes B wedi bod yn llwyddiannus a dydw i ddim yn meddwl y bydden ni wedi llwyddo i ddenu cymaint o bobol ifanc i ddod yno pe baen wedi gwahardd alcohol ar Faes B" meddai.
Mae gwaith ymchwil yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan gwmni sydd wedi ei gomisiynu gan Fwrdd yr Iaith, y Bwrdd Croeso, Cyngor yr Eisteddfod a Chyngor y Celfyddydau.
Mae'r cwmni sydd yn edrych ar ddelwedd yr wyl yn gyffredinol a bydd yr adroddiad wedi ei gwbwlhau erbyn yr hydref ac wedyn yn cael ei drafod gan Gyngor Eisteddfod ddiwedd y flwyddyn.
Beth yw eich barn chi am ganiatáu alcohol ar Faes y brifwyl, ydych chi'n cytuno â sylwadau Glyn Davies? Anfonwch eich sylwadau