BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 31 Gorffennaf, 2003, 14:10 GMT 15:10 UK
Murlun i groesawu'r ymwelwyr
Plant Ysgol Llanfyllin a'r murlun
Plant Ysgol Llanfyllin sydd wedi llunio'r murlun

Un o'r pethau cyntaf y mae ymwelwyr â'r Eisteddfod yn ei weld wedi iddyn nhw gamu drwy'r gatiau eleni yw murlun o decstiliau sy'n darlunio creaduriaid a thirluniau amrywiol Maldwyn.

Murlun yw hwn wedi ei greu gan Ysgol Llanfyllin ac mae'n cael ei arddangos yn y Babell Groeso sef prif fynedfa'r Eisteddfod.

Bwriad y plant wrth ei lunio oedd darlunio cyfoeth naturiol eu hardal.

Mae'r cynllun wedi ei noddi gan y Cyngor Cefn Gwlad a'r Eisteddfod Genedlaethol fu'n gyfrifol am ei drefnu.

Fe fu'r disgyblion yn gweithio gyda'r artist Cefin Burgess a enillodd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth ym 1992.

Bu Mr Burgess yn gweithio gyda'r plant, sydd â'u hoedran yn amrywio o 11 i 18 oed, am wythnosau ac roedd y gwaith wedi ei orffen erbyn diwedd tymor yr haf.

Bywyd gwyllt

Darlunio nodweddion amrywiol y fro y mae'r murlun, y rhostiroedd, parcdiroedd, coedwigoedd, dyffrynnoedd, Llwybrau Cenedlaethol Glyndwr, Clawdd Offa a'r gamlas.

"Mae'r murlun wedi bod yn gyfle gwych i'r disgyblion weithio gydag artist proffesiynol i ddarlunio eu syniadau am eu hardal leol," meddai Victoria Todd, Pennaeth Adran Gelf Ysgol Llanfyllin.

"Bu rhai'n paentio ac eraill yn creu siapiau 3D, a chafodd rhai o'r bechgyn flas ar ddefnyddio peiriannau gwnïo!

Rydym yn gobeithio y bydd yn codi ymwybyddiaeth ymhlith y bobol sy'n ymweld â'r Eisteddfod a'u hannog i grwydro'r ardal
Helen Evans, Uwchswyddog Cysylltiadau Cyhoeddus Cyngor Cefn Gwlad
"Er bod y rhan fwyaf o bynciau yn cael eu dysgu yma drwy'r Gymraeg a'r Saesneg, roedd hwn yn gyfle gwych i'r Cymry Cymraeg weithio ar brosiect artistig mawr yn eu mamiaith."

Mae'r Cyngor Cefn Gwlad wedi bod yn cydweithio gyda'r Eisteddfod ers sawl blwyddyn, gan noddi cynllun yn flynyddol sy'n rhoi cyfle i blant un o ysgolion bro'r Eisteddfod i weithio gydag artist a chreu gwaith yn darlunio bywyd gwyllt yr ardal.

"Mae'r plant yn mwynhau'r gwaith ac yn cael llawer o fudd," meddai Helen Evans, Uwchswyddog Cysylltiadau Cyhoeddus y Cyngor Cefn Gwlad:

"Mae'n gyfle iddyn nhw edrych ar fywyd gwyllt eu bro ac ystyried beth sy'n bwysig ac yn hynod yn eu barn nhw.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn codi ymwybyddiaeth ymhlith y bobol hynny sy'n ymweld â'r Eisteddfod a'u hannog i grwydro'r ardal."

Wedi'r Eisteddfod fe fydd y murlun yn dychwelyd i'r ysgol lle y bydd yn atgoffa'r disgyblion fod yr Eisteddfod wedi ymweld â'u hardal.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^