Bydd Tacsi yn cael ei ddosbarthu am ddim yn yr Eisteddfod
|
Mae cylchgrawn Cymraeg newydd i bobol ifanc rhwng 15-30 oed wedi ei gynhyrchu yn arbennig ar gyfer wythnos yr Eisteddfod.
Bydd Tacsi yn cael ei ddosbarthu am ddim o amgylch y maes, Maes B a'r gigs yn ystod yr wythnos.
Bydd hefyd yn cael ei ddosbarthu mewn lleoliadau y tu allan i'r Eisteddfod lle mae'r Cymry'n cyfarfod yn aml fel Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd a Chofi Roc yng Nghaernarfon.
Bethan Elfyn, cyflwynwraig BBC Radio Un a Phopcorn ar S4C, Julian Castaldi, ffotograffydd gyda bandiau fel y Stereophonics, a'r dylunydd Colin Barker sydd wedi llunio'r cylchgrawn.
Mae'r criw wedi derbyn nawdd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn sefydlu dau gylchgrawn, y cyntaf yn ystod wythnos yr Eisteddfod a'r ail yn ystod wythnos y glas yn y prifysgolion.
Fe ddaw gweddill yr arian, sy'n talu am y cynhyrchu, drwy hysbysebion.
Bwlch
Mae 7,000 o gopļau o'r rhifyn cyntaf wedi eu cynhyrchu gyda 5,000 yn cael eu dosbarthu yn yr Eisteddfod.
Penderfynodd Bethan Elfyn a Julian Castaldi sefydlu cylchgrawn i bobol ifanc o ganlyniad i lwyddiant eu cylchgrawn ar y we sef 247magazine.
Roedden nhw'n credu ei bod yn bwysig cael fforwm mewn ffurf print i adlewyrchu'r sīn gerddorol a chreu ymwybyddiaeth o'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru.
Wedi iddyn nhw anfon holiaduron i fyfyrwyr tair prifysgol yng Nghymru a siarad ā phobol ifanc mewn gigs a gwyliau roc roedden nhw'n argyhoeddedig fod yna fwlch yn y farchnad a bod angen cylchgrawn Cymraeg i bobol ifanc rhwng 15-30 oed.
Meddai Bethan Elfyn: "Roedd yna fwlch amlwg yn y farchnad a doedd dim ar gael ar gyfer myfyrwyr a phobol ifanc dros 15 oed.
"Does dim cylchgrawn Cymraeg sy'n trafod y sīn roc ers Sothach yn y 90au ac mae V, cylchgrawn Golwg, yn dueddol o dargedu oedran iau trwy'r amser.
"Rydw i'n lwcus gan fy mod yn gweithio i Radio 1 mae gen i fynediad i'r grwpiau a gwybodaeth am y gigs ac yn y blaen ac felly mater o gyflwyno'r wybodaeth honno ydyw.
Deniadol
"Rydym yn gobeithio y bydd modd i ni ffurfio cylchgrawn chwarterol yn y pendraw.
Mae ymddangosiad y cylchgrawn yn bwysig i'r criw cynhyrchu ac maen nhw wedi ceisio creu cylchgrawn deniadol drwy ei ddylunio mewn dull arbrofol a defnyddio ffotograffiaeth unigryw.
Bydd y rhifyn cyntaf yn cynnwys erthyglau amrywiol gan gynnwys dyddiadur Jakoykoyak o Wlad yr Ia, Ian Cottrell ar glybiau gorau Ibiza, dyddiadur sglefr-fyrddio, erthyglau am ffasiwn, cyfweliadau gyda Grant Nicholas o Feeder, Guto o'r Super Furry Animals yn trafod Pesda Roc, erthygl gan yr arlunydd Neal Howells o Gastell-nedd, un o hoff arlunwyr y Manic Street Preachers, a bydd Huw Stephens, Radio 1, yn trafod adloniant yr wythnos
Mae'r criw cynhyrchu yn bwriadu sefydlu gwefan i gyd-fynd ā'r cylchgrawn a bydd cyfle i ddarllenwyr e bostio eu sylwadau.