Bydd ymgyrchwyr dros yr iaith Gymraeg yn defnyddio Maes yr Eisteddfod Genedlaethol i lansio protest am yr argyfwng sy'n wynebu cymunedau gwledig.
Am y tro cyntaf bydd Cymuned a Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cydweithio ac yn cynnal protest ar Faes Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau ym Meifod yr wythnos nesaf.
Ddydd Llun fe gyhoeddodd Cymuned eu bwriad i uno gyda'r Gymdeithas yn y brotest.
Bydd y broest ar 8 Awst yn tynnu sylw at yr argyfwng tai sy'n tanseilio cymunedau ar draws Cymru a phwysleisio rhai camau y gall Llywodraeth y Cynulliad eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r broblem.
Un o'r problemau ydy na all pobol ifanc, y bobol leol, y Cymry Cymraeg fforddio prynu tai yn eu cymunedau ac o ganlyniad maen nhw'n gorfod gadael eu bröydd.
Argyfwng
Dywedodd y ddau fudiad fod yr argyfwng tai yn tanseilio cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Penderfynodd y ddau fudiad gynnal protest ar y cyd wedi cyhoeddiad gan Edwina Hart, Gweinidog Tai y Cynulliad, ddechrau mis Gorffennaf.
 |
Mae rhai materion sydd mor ganolog i'r broblem fel bod ymgyrchu yn eu cylch yn gyffredin i sawl mudiad bellach
|
Dywedodd na fyddai unrhyw arian ychwanegol ar gael ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu.
Cynllun oedd hwn gafodd ei sefydlu gyda'r bwriad o helpu teuluoedd i brynu tai yn eu cymunedau.
Yn ôl y ddau fudiad mae'r Llywodraeth wedi gwrthod cymryd un o'r camau symlaf posibl tuag at leddfu'r argyfwng tai yng Nghymru wrth fethu â darparu mwy o gyllid ar gyfer y cynllun.
Mwy o arian
"Mae hon yn arwydd glir o ddiffyg ewyllys ddigonol ar ran y Llywodraeth i sicrhau dyfodol cynaladwy i'n cymunedau Cymraeg," meddai datganiad ar ran Cymuned a Chymdeithas yr Iaith.
Maen nhw hefyd yn galw am gynnydd sylweddol yn y gyllideb bresennol sy'n cael ei ddarparu ar gyfer y cynllun.
All bobol sy'n ceisio prynu tai ddim fforddio rhai yn eu cymunedau
|
"Ar hyn o bryd mae'r gyllideb mor isel fel mai prin iawn yw'r effaith a geir mewn sawl ardal," meddai Wyn Hobson ar ran Cymuned.
"Ymhellach, mae angen digon o adnoddau i alluogi Cymdeithasau Tai i brynu tai sydd ar werth yng nghanol pentrefi a threfi er mwyn eu gosod i deuluoedd lleol ar rent teg.
"Problem amlweddog yw problem y bygythiad i fodolaeth yr iaith Gymraeg, ac mae'n naturiol felly fod yr ymgyrch dros ein cymunedau Cymraeg heddiw'n cynnwys nifer o wahanol fudiadau, pob un â'i bwyslais a'i ddulliau arbennig ei hun.
"Ond y mae rhai materion sydd mor ganolog i'r broblem fel bod ymgyrchu yn eu cylch yn gyffredin i sawl mudiad bellach.
"Argyfwng y farchnad dai yw'r pwysicaf o'r rhain yn y cyfnod sydd ohoni - a datblygiad llawn mor naturiol, felly, yw'r ffaith fod Cymuned a Chymdeithas yr Iaith yn dod at ei gilydd yn awr i ddangos eu condemniad o syrthni'r Llywodraeth yn y cyswllt hwn."
Meddai Huw Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith: "Does dim amheuaeth fod brys mawr i weithredu.
"Yn ôl ffigyrau diweddaraf Cymdeithas Adeiladu'r Principality, bu cynnydd o bron 20% mewn prisiau tai ar draws Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - cynnydd ar gyfartaledd o £73,000 i £87,000.
"Pan ystyrir y ffaith fod cyflogau yng Nghymru yn isel - tua 14% yn is na'r cyfartaledd Prydeinig - nid yw'n syndod fod pobol leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad.
"Yn wyneb marchnad dai mor gystadleuol, ac anallu pobl leol i ddal eu tir, byddai rhywun yn disgwyl i Lywodraeth gyfrifol i wneud ei gorau i helpu."