Mae cyfle i'r rhai sy'n ymweld â'r Eisteddfod ddysgu am enwau lleol yr ardal a'u tarddiad.
Gwasg Carreg Gwalch sy wedi cyhoeddi llyfr.
Mae Enwau Lleoedd Maldwyn wedi ei ysgrifennu gan Richard Morgan, gwr o Wrecsam oedd yn gyn athro hanes yn Ysgol Uwchradd y Trallwng ond sydd bellach yn archifydd yn Archifdy Morgannwg.
Cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn wreiddiol yn Saesneg ond mae wedi ei addasu i'r Gymraeg gan Dai Hawkins.
Mae'r gyfrol yn olrhain bron i 500 o enwau o bob rhan o'r sir ac mae'r rhan fwyaf o'r enwau hyn yn Gymraeg.
Yn y gyfrol mae mae rhai lleoedd ag enwau Cymraeg a Saesneg fel Y Trallwng.
Ar goll
Mae'r enwau wedi eu cymryd o fap Ordnans o Gymru a gafodd ei wneud ym 1997 yn ogystal ag enwau hen blwyfi, trefgorddau, arglwyddiaethau, cymydau, cantrefi a phrif afonydd o fewn ffiniau'r hen sir Drefaldwyn.
Nid enwau hysbys yn unig sydd yn y gyfrol gan fod yma hefyd enwau sydd bellach ar goll.
Maen nhw wedi eu cynnwys am eu bod mewn erthyglau hanesyddol ar yr hen sir a gallen nhw fod o ddiddordeb i haneswyr.
Wrth lunio'r gyfrol, astudiodd yr awdur sut yr oedd yr enwau'n cael eu sillafu yn y gorffennol.
"Mae'n union fel archeoleg ac, wrth lunio cyfrol fel hon, mae'n rhaid chwilio am dystiolaeth fesul tipyn ac archwilio'r modd y mae'r enwau yn cael eu sillafu yn ofalus," meddai Richard Morgan.
"Fe all sillafiad modern fod yn gamarweiniol ac felly mae'n rhaid chwilio'n drwyadl er mwyn darganfod y ffurfiau cynharaf.
"Mae'n broses o adeiladu ac rydych chi'n gosod y ffeithiau un ar ben y llall a pheidio â dibynnu'n ormodol ar dystiolaeth eilradd," meddai.
Wedi iddo gasglu'r dystiolaeth i gyd, roedd Richard Morgan yn gallu dehongli'r enwau a'u cymharu gydag enwau eraill.
Syndod
Mae'n egluro fod y casgliadau'n aml yn ddiddorol ac y gallai ystyr rhai enwau greu tipyn o syndod i ddarllenwyr.
"Efallai fod y Cymry yn dueddol o fod yn orhyderus ynglýn â tharddiad enwau, gan gredu yn aml eu bod yn deall ystyr enwau," meddai.
"Ond mae'n rhaid cofio fod llawer o newidiadau wedi digwydd dros y canrifoedd oherwydd pob math o ddylanwadau," meddai.
Fe gymrodd y gwaith ymchwil 25 mlynedd i'w gwbwlhau ac mae Richard Morgan yn pwysleisio fod yn rhaid ymchwilio yn drwyadl er mwyn dod o hyd i darddiad gwreiddiol yr enwau.
"Mae yna gannoedd o filoedd o ffynonellau a ffyrdd o sillafu."
"Felly does dim modd torri corneli.
"Os ydych chi'n gwneud hynny, bydd camgymeriadau'n digwydd."