BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 2 Awst, 2003, 09:16 GMT 10:16 UK
Lembit Öpik yn areithio'n Gymraeg
Catrin Jones
BBC Cymru'r Byd

Lembit Öpik, AS Maldwyn
Bydd Lembit Öpik yn areithio yn seremoni agoriadol yr Eisteddfod

Fe wnaeth Lembit Öpik, AS Maldwyn, ei araith yn y Gymraeg yn seremoni agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau nos Wener.

Roedd wedi bod wrthi ers mis Ionawr yn dysgu'r iaith ac roedd yn benderfynol o allu ei meistroli er mwyn gwneud ei araith yn Gymraeg fel un o lywyddion anrhydeddus yr Eisteddfod sy'n cael ei chynnal ar Fferm Mathrafal ym mhentref Meifod.

"Roeddwn i am ddysgu'r iaith er mwyn gallu siarad yn y Gymraeg am dri neu bedwar munud yn y seremoni agoriadol," meddai.

"Rydw i'n gobeithio y bydda i'n llwyddo i wneud hyn."

Mae gan Mr Öpik ddiddordeb naturiol mewn ieithoedd.

Cafodd ei eni yng Ngogledd Iwerddon yn fab i rieni o Estonia ac mae'n ymwybodol o bwysigrwydd ieithoedd a diwylliannau gwahanol.

Rydw i wrth fy modd yn dysgu ieithoedd...'Swn i ddim yn siarad sawl iaith eisoes, dwi'n meddwl y byddai gen i ofn dysgu Cymraeg
Lembit Öpik, AS Maldwyn
Iaith Estonia oedd iaith y cartref a gan ei fod wedi dysgu Saesneg cyn Almaeneg doedd dysgu iaith arall ddim yn rhy anodd.

"Rydw i wrth fy modd yn dysgu ieithoedd.

"'Swn i ddim yn siarad sawl iaith eisoes, dwi'n meddwl y byddai gen i ofn dysgu Cymraeg.

"Unwaith yr ydych wedi deall strwythur yr iaith a'r eirfa, yna mae pethau'n dod yn haws."

Fe fu Mr Öpik yn cael gwersi gan Delyth James sydd yn gweithio yng Ngregynog a dywedodd fod ei hymroddiad wedi ei annog i ddal i ddysgu'r iaith.

Mwynhau

"Roedd hi'n wych ac yn benderfynol o ddatblygu fy Nghymraeg ac roeddwn i felly yn mwynhau treulio amser yn dysgu.

"Roedd hi eisiau i mi lwyddo a dyna ydi cyfrinach ei llwyddiant."

Gan ei fod yn brysur, yn gweithio yn San Steffan ac yn ei etholaeth, mae'n anodd i Mr Öpik gael cyfle i ymarfer yr iaith ond mae'n gwneud ei orau os oes ganddo funud sbâr.

Siân Lloyd
Mae Mr Öpik wedi bod yn ymarfer Cymraeg gyda'i gariad Siân Lloyd

"Rydw i wedi bod yn ymarfer efo Siân (Lloyd - ei gariad) a phobol yn y swyddfa, a hefyd gyda ffrind i mi sy'n ffermwr lleol.

"Mae ymarfer yn angenrheidiol."

Ond nid yw ymarfer gyda phobol eraill bob amser yn hawdd.

"Mae Siân yn siarad Cymraeg De Cymru ond rydw i'n dysgu Cymraeg y gogledd."

Er y gwahaniaethau rhwng y ddwy dafodiaith, nid yw Mr Öpik o'r farn fod y Gymraeg yn anodd i'w dysgu.

"Mae'n dibynnu ar eich agwedd," meddai.

"Os ydych chi am ddysgu, yna nid yw'n fwy anodd nac unrhyw iaith arall.

"Os ydych chi'n credu ei bod yn ddiflas ac yn wastraff amser, yna fe all gymryd blynyddoedd i'w dysgu.

"I fod yn llwyddiannus mewn unrhyw iaith mae angen ymroddiad ond i fod yn berffaith mae angen aberth."

Os oes gan bobol hyder a ffydd ynddyn nhw eu hunain felly, fe allen nhw ddysgu'r Gymraeg ond mae Mr Öpik yn credu fod yn rhaid i Gymru fel gwlad fod yn fwy hyderus.

Hyder

A dyna oedd neges ei araith.

"Bydda i yn atgoffa Cymru fod yn rhaid iddi fod â hyder ynddi ei hun a hyder y gall wneud yn dda.

"Wedyn fe allwn symud ymlaen a dathlu diwylliant Cymru.

"Unwaith y mae pobol yn gwerthfawrogi gwahaniaethau ac nid eu hofni, yna mae unrhyw beth yn bosib," meddai.

Mae Mr Öpik wedi wedi dangos nad yw'n ofni'r gwahaniaethau a'i bod yn bosib dysgu'r Gymraeg gyda thipyn o ymroddiad.

Bydd yn dal i fynd i'r gwersi ar ôl yr Eisteddfod.

Beth yw ei gyngor felly i ddysgwyr?

"Yn gyntaf, chwiliwch am diwtor neu athro yr ydych chi'n mwynhau gwrando arnyn nhw.

"Yn ail, peidiwch â bod ofn dweud pethau'n anghywir ac, yn drydydd, cofiwch pam yr ydych chi'n dysgu," ychwanegodd.




HEFYD:
Opik yn amddiffyn y DemRhydd ar Irac
23 Maw 03  |  Newyddion
Asteroid i fethu'r Ddaear - y tro hwn
29 Gorff 02  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^