BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 2 Awst, 2003, 09:22 GMT 10:22 UK
Cerddi plant Powys mewn llyfr
Clawr Dyma Fy Mhowys
Blodeugerdd wedi ei llunio gan blant ysgolion Powys yw Dyma fy Mhowys

Cafodd cyfrol arbennig o farddoniaeth ei lansio ym mhabell Cyngor Sir Powys fore Sadwrn.

Blodeugerdd wedi ei llunio gan blant ysgolion Powys yw Dyma fy Mhowys ac mae'r gyfrol wedi ei pharatoi i gydfynd â'r Eisteddfod eleni.

Grwp Llythrennedd y cyngor oedd yn gyfrifol am drefnu'r prosiect a gwahoddwyd ysgolion i anfon cerddi Cymraeg y plant am eu sir.

"Roedden ni am wneud rhywbeth i ddathlu'r ffaith fod y Steddfod yn dod i Bowys," meddai Eirian Evans o adran addysg y cyngor.

"Roedd hi'n ddiddorol gweld sut y byddai'r plant yn dehongli'r testun a dwi'n siwr y byddan nhw wrth eu bodd yn gweld eu cerddi yn y gyfrol," meddai.

Cafodd dros 250 o gerddi eu hanfon i gyd a'r rheiny yn ymdrin ag amryw o themâu, gan gynnwys chwedlau, digwyddiadau hanesyddol a chymeriadau Powys.

Dewis

Mae yma hefyd gerddi am fywyd yn y sir a'r amgylchedd.

O blith y cerddi a anfonwyd cafodd 70 o gerddi eu dewis i'w cynnwys yn y flodeugerdd.

Roedd Myrddin ap Dafydd yn un o'r rhai ddewisodd y cerddi ac roedd wedi ei blesio'n fawr.

Murlun
Mae pob ysgol wedi seilio eu baner ar fywyd cymeriad unigol
"Roedd y safon yn arbennig o dda ac mi ges i fy mhlesio'n arw efo'r amrywiaeth.

"Yr hyn oedd yn braf oedd nad oedd yma sgwennu cystadleuol," meddai.

"Nid sgwennu i gael eu beirniadu nac i ennill gwobr oedden nhw ac felly roedd mwy o deimlad personol yn y cerddi ac roedd personoliaethau'r plant yn dod trwodd.

"Hefyd doedd yna ddim testun penodol wedi ei osod fel sy'n digwydd mewn cystadlaethau ac felly roedd y plant yn sgwennu yn fwy naturiol ac yn ôl eu dymuniad.

"Mi wnes i drio dewis amrywiaeth o gerddi ond weithiau roedd sawl cerdd debyg yn ymwneud â chwedlau, lleoedd a phrofiadau plant yn gyffredinol.

"Mi es ar ôl y gwahanol lefelau gan ddewis cerddi gan ddysgwyr a phlant iaith gyntaf ac amrywiaeth o bob oedran er mwyn trio cynrychioli rhychwant eang plant Powys," meddai.

Coeden

Ond nid dyma'r unig waith credigol y bu plant ysgolion Powys yn ei wneud ar gyfer yr Eisteddfod.

Maen nhw hefyd wedi bod yn gweithio ar brosiect 'Troi dalen newydd' gyda phob plentyn yn creu deilen drwy ddefnyddio ei hoff ddeunyddiau.

Coeden
Mae pob plentyn wedi creu deilen i'w gosod ar y goeden
Roedden nhw'n cael eu hannog i ddefnyddio hen deunyddiau gan mai cynaladwyedd yw thema pabell Cyngor Sir Powys ar y maes eleni.

Fel rhan o'r prosiect mae'r cyngor wedi comisiynu cerflun o goeden er mwyn arddangos yr holl ddail yn eu pabell.

Mae'r wyth ysgol yn ardal Meifod wedyn wedi bod yn brysur hefyd yn creu wyth baner sydd yn portreadu golygfeydd a digwyddiadau sy'n gyfarwydd i bobol yr ardal.

Mae'r prosiect 'Bywydau a chwedlau sy'n cael eu cysylltu a'r Oesoedd Tywyll ym Mathrafal' yn defnyddio Mathrafal, palas yn yr Oesoedd Tywyll ac yn ddiweddarach llys Tywysogion cynnnar Powys, fel thema ganolog.

Mae pob ysgol wedi seilio eu baner ar fywyd cymeriad unigol a'r chwedlau sydd ynghlwm â'r cymeriad hwnnw.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^