BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 3 Awst, 2003, 09:37 GMT 10:37 UK
Telynor yn perfformio adref
Ieuan Jones, telynor ac Athro ar y Delyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol
Mae Ieuan Jones wedi perfformio ymhob cwr o'r byd

Fe fydd telynor enwog yn dychwelyd adref yn ystod wythnos yr eisteddfod er mwyn perfformio mewn cyngerdd arbennig yn y pafiliwn a hynny ar dir ei gartref.

Cafodd Ieuan Jones ei fagu ar fferm Mathrafal, cartref yr eisteddfod eleni, yn fab i Beryl a'r diweddar David Jones.

Ar hyn o bryd mae'n Athro ar y Delyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ac mae wedi perfformio ymhob cwr o'r byd gan swyno cynulleidfaoedd yn Yr Ariannin, Hong Kong ac Awstralia.

Nos Sul, 3 Awst, fe fydd yn perfformio mewn cyngerdd yn y pafiliwn gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Bydd yn perfformio'r Concerto D'Aranjuez gan Rodrigo sydd wedi ei addasu ar gyfer y delyn gan y cyfansoddwr Nicanor Zabaletta.

"Roeddwn i'n falch iawn pan glywais i y byddwn i'n cael perfformio yn y Steddfod eleni ar dir fy nghartref a hynny ar ôl i mi fod mewn cymaint o eisteddfodau.

"Mae'r darn y bydda i yn ei berfformio yn un poblogaidd a gafodd ei sgwennu'n wreiddiol ar gyfer y gitâr ond mae'n swnio'n well ar y delyn."

Roeddwn i'n falch iawn pan glywais i y byddwn i'n cael perfformio yn y Steddfod eleni ar dir fy nghartref a hynny ar ôl i mi fod mewn cymaint o eisteddfodau.
Ieuan Jones
"Y tro diwethaf i'r Steddfod ymweld â Sir Drefaldwyn, Machynlleth 1981, fe enillais gystadleuaeth y Rhuban Glas agored ac felly mae'n braf dod yn ôl i berfformio."

Eleni ym Meifod Ieuan Jones yw beirniad y gystadleuaeth honno yn ogystal â nifer o'r cystadlaethau offerynnol eraill.

"Mae beirniadu'n llawer haws na pherfformio" meddai.

Fe ddechreuodd Ieuan Jones chwarae'r delyn yn chwech oed a phan oedd yn 13 oed ef oedd aelod ieuengaf Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Yn ddiweddarach ymunodd â Cherddorfa Ieuenctid Prydain cyn ennill ysgoloriaeth i astudio yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain.

Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr cafodd ei benodi yn delynor i Dý'r Cyffredin a bu'n gwneud y gwaith am 13 mlynedd.

Wedi graddio cafodd ei benodi yn Athro ar y Delyn yn y coleg, swydd y mae'n ei gwneud hyd heddiw.

Ond yn y dyfodol mae'n gobeithio treulio tipyn o amser adref ym Meifod gan ei fod wrthi ar hyn o bryd yn ail wneud hen dý gwas ar y fferm ac mae'n gobeithio dod o hyd i ychydig o waith yn yr ardal yn dysgu telynorion lleol.

Mae'n edrych ymlaen at wythnos yr Eisteddfod.

"Mae'r teulu i gyd yn dod adref felly mi fydd yn braf iawn a'r unig beth sydd i'w wneud nawr yw gobeithio y bydd yr haul yn gwenu ac y cawn ni dipyn o dywydd braf" meddai.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^