BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 23 Gorffennaf, 2003, 13:52 GMT 14:52 UK
Awyren o'r Fali mewn damwain
map
Glaniodd y peilot ger yr A170
Mae awyren Hawk o'r Fali wedi disgyn i'r ddaear yng Ngogledd Sir Efrog.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod yr awyren wedi dod i lawr ar hen drac rheilffordd yn Dawson Wood ger yr A170 rhwng Pickering a Sinnington.

Cadarnhawyd bod y peilot wedi gallu gadael yr awyren tra yn yr awyr ac aed ag o gyda hofrennydd i ysbyty yn Scarborough.

Dywedodd llefarydd na chafodd neb arall niwed.

Dywedodd un welodd y ddamwain: "Roedd yna glec anferth ac mi welson ni barasiwt yn yr awyr.

"Daeth yr ambiwlans awyr i'r cae ble daeth y parasiwt i lawr."

Caewyd yr A170 tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r ddamwain.




HEFYD:
RAF: 100 o swyddi newydd i Fôn
09 Hyd 02  |  Newyddion
Môn: Awyren yn cwympo i'r ddaear
15 Chwef 02  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^