BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 25 Gorffennaf, 2003, 08:09 GMT 09:09 UK
Prifwyl: Dyled i bobol dros y ffin
Gwynn ap Gwilym
Mae Gwynn ap Gwilym yn Swyddog Iaith gyda'r Eglwys yng Nghymru

Mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau yn gwybod beth yw cyfraniad pobol yr ochor arall i'r ffin.

"Gan mai Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau yw hi eleni mae cymdeithasau Cymraeg yn Birmingham, Wolverhampton a Stoke on Trent wedi bod wrthi'n hel arian ar ei chyfer," meddai Gwynn ap Gwilym, 53 oed.

Yn Nhachwedd 2002 symudodd y nofelydd a'r bardd o Fallwyd ger Machynlleth i Benyfai ger Penybont ar Ogwr pan gafodd swydd Swyddog Iaith i'r Eglwys yng Nghymru.

Am y saith mis diwethaf mae wedi bod yn teithio yn ôl ac ymlaen i Sir Drefaldwyn i sicrhau fod y gwaith paratoi yn cael ei gwblhau'n iawn.

Dechreuodd fel Cadeirydd Pwyllgor yr Eisteddfod ym 1998 a theimlai fod y mwyafrif o'i waith wedi' ei drefnu erbyn Rhagfyr 2002.

"Erbyn hyn, roedd targed y gronfa leol wedi'i gyrraedd, y Swyddfa Ganolog wedi sicrhau nawdd o £350,000 gan Gyngor Sir Powys ac roedd yr holl is-bwyllgorau wedi'u trefnu," meddai.

Mae'r Eglwys yng Nghymru'n yn cael ei gweld fel sefydliad Seisnig ac mae 'na brinder offeiriaid sy'n siarad Cymraeg
Gwynn ap Gwilym, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith
Mae Gwynn ap Gwilym yn bendant y dylai'r Eisteddfod deithio'r wlad.

" Fe wnes araith i Lys yr Eisteddfod yn erbyn cael man parhaol i'r brifwyl," meddai.

"Mae'n hynod o bwysig ei bod yn teithio ac yn hybu diwylliant Cymreig.

Hybu

"Drwy gael Eisteddfod sy'n symud o ardal i ardal, mae pobol yn dod i adnabod Cymru'n well.

"Mae'n ennyn diddordeb y di-Gymraeg ac mae'r Eisteddfod eleni wedi hybu ardal Y Trallwng."

Edrych ymlaen y mae Gwynn ap Gwilym at weld Cwmni Theatr Maldwyn yn perfformio drama am fywyd yr emynwraig Ann Griffiths.

Gwynn ap Gwilym
'Dylai'r Steddfod deithio': Gwynn ap Gwilym

"Ym 1981 yn Eisteddfod Maldwyn synnwyd pawb gan berfformiad Theatr Ieuenctid Maldwyn, fel y'i gelwir ar y pryd, gyda'u perfformiad o'r Mab Darogan, sef hanes Owain Glyndwr.

"Roedd yn noson gofiadwy ac rwy'n siwr y bydd eu perfformiad eleni yr un mor wefreiddiol."

Un o uchafbwyntiau'r wythnos i Gwynn ap Gwilym fydd dadorchuddio cofeb i'r bardd a'r ysgolhaig Iorwerth Peate.

Mae'r gofeb o wellt yn cael ei harddangos yn ystod yr Eisteddfod cyn cael ei symud i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar ôl y brifwyl.

Dr Peate oedd sylfaenydd yr amgueddfa.

Er i Gwynn ap Gwilym ennill Cadair Eisteddfod Abergwaun ym 1986 gydag Awdl y Cwmwl nid yw wedi cystadlu yn ddiweddar ond mae wedi beirniadu cystadlaethau.

Gan fod gan yr Eglwys yng Nghymru broblem delwedd, meddai, mae wedi bod yn gweithio ar becyn gwybodaeth fydd ar gael i bob plwyf yng Nghymru.

"Bwriad y pecyn gwybodaeth yw sôn am draddodiad Cymreig yr Eglwys a chryfhau cysylltiadau.

Mae'n ennyn diddordeb y di-Gymraeg ac mae'r Eisteddfod eleni wedi hybu ardal Y Trallwng
Gwynn ap Gwilym, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith

"Mae'r Eglwys yng Nghymru'n yn cael ei gweld fel sefydliad Seisnig ac mae 'na brinder offeiriaid sy'n siarad Cymraeg," meddai.

Dywedodd fod hyfforddi offeiriaid yn anghenrheidiol a bod yr Egwlys yn talu iddyn nhw fynychu cyrsiau Wlpan yn Llanbed neu Nant Gwrtheyrn.

"Ond dyw dysgu'r iaith ddim yn troi rhywun yn Gymro dros nos," meddai.

"A ydyn nhw'n mynd i ddeall arwyddocad Ty Ddewi a gwybod lle mae Ynys Enlli?"

Roedd tad Gwynn ap Gwilym yn weinidog Presbyteraidd ym Machynlleth ac ar gyngor ei dad trodd ei olygon at fod yn offeiriad gyda'r Eglwys yng Nghymru.

Bu Gwynn ap Gwilym yn y coleg ym Mangor, Galway a Rhydychen.

Bu'n darlithyd Hebraeg ac Astudiaethau Hen Destament yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth ac yn ddarlithydd Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Corc yn Iwerddon.

Ar ôl wythnos yr Eisteddfod mae'n gobeithio cael mwy o amser i ymlacio a gwneud yr hyn mae'n ei fwynhau, sgwennu.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^