Mae'r Gadair wedi ei llunio o bren derw o Sir Drefaldwyn
|
Byddai Cadair yr Eisteddfod eleni wedi edrych yn gartrefol yn Sycharth, llys Owain Glyndwr yn y 15fed ganrif, a byddai'r bardd Iolo Goch wedi bod yn falch ohoni.
Robert Morgan o Lanbrynmair sydd wedi ei llunio a dodrefn cyfnod Glyndwr sydd wedi ei ysbrydoli.
"Cadair draddodiadol ydi hi ac, wrth fynd ati i'w chreu, fe es i ati i ddarllen llyfrau am ddodrefn cyfnod Glyndwr a chwilio ar y we am wybodaeth," meddai.
Mae'n Gadair arbennig am reswm arall gan ei bod wedi ei llunio o bren derw a dorrwyd o goed a dyfai ar fferm Cyfie ar y bryniau uwchlaw Maes yr Eisteddfod ym Meifod.
"Mae derw Sir Drefaldwyn yn arbennig gan fod graen y pren yn amlwg iawn," meddai Mr Morgan "ac mae'r pren a ddefnyddiais ar gyfer y Gadair wedi ei dorri o goeden oedd yn tyfu yn un o'r caeau sydd yn edrych i lawr ar y Maes."
Dyma'r Gadair gyntaf i Mr Morgan ei llunio ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ond mae wedi llunio Cadair i Eisteddfod Powys a'r Eisteddfod Ryng-Golegol yn y gorffennol.
Ffermwr yw ond mae'n cynhyrchu dodrefn yn ei amser hamdden, gan ymarfer y sgiliau a ddysgodd pan fu'n astudio cwrs cynllunio a gwneud dodrefn yn y coleg.
Yn ystod y gaeaf mae'n treulio mwy o amser yn ei weithdy ar y fferm wrtth gynhyrchu pob math o ddodrefn i bobol yr ardal.
Mae yn ei hystyried yn anrhydedd i gael y cyfle i lunio'r Gadair ar gyfer y Brifwyl eleni.
"Roeddwn i'n falch iawn pan ges i'r cynnig ac yn ystyried fy hun yn hynod o lwcus gan mai dim ond unwaith mewn bywyd y mae rhywun yn cael cyfle fel hyn."
"Roedd yna dipyn o bwysau gan mai'r Cadeirio yw'r seremoni fwyaf yn y Steddfod ac mae'r Gadair ar y llwyfan drwy gydol yr wythnos.
"Roeddwn am i bopeth fod yn iawn."
Ofn
Erbyn hyn mae'r Gadair yng ngofal yr Eisteddfod yn barod am y diwrnod mawr ac mae Mr Morgan yn falch nad ydyw yn ei ofal ef bellach.
"I ddweud y gwir, roedd yn bleser mawr i mi ei gweld yn mynd yn y diwedd gan fod gen i gymaint o ofn i rywbeth ddigwydd iddi ar ôl yr holl waith.
"Dwi'n edrych ymlaen rwan at y seremoni a dim ond gobeithio y bydd rhywun yn ei hennill.
"Dyna'r peth pwysicaf."