Mae 45 o feridd wedi cystadlu am Goron Eisteddfod Maldwyn
|
Mae Coron yr Eisteddfod eleni wedi ei chynllunio'n arbennig ac yn darlunio bywyd a hanes Bro Maldwyn.
John Pryce o Fachynlleth sy wedi ei llunio, gof arian sy'n arbenigwr ar wneud coronau eisteddfodol.
Eisoes mae wedi creu 45 o goronau gyda phedair ohonyn nhw'n goronau Eisteddfod Genedlaethol.
Er ei fod wedi llunio cymaint ohonynt dros y blynyddoedd mae'n pwysleisio eu bod i gyd yn wahanol.
"Mae pob cynllun yn wahanol a'r tro yma mae'r Goron yn cynnwys delweddau sy'n portreadu dalgylch Sir Drefaldwyn a'r Gororau," meddai.
Mae pedair thema yn saernïaeth y Goron.
Themâu
Un o'r rhain yw Owain Glyndwr a'i gleddyf gydag Owain yn sefyll y tu allan i'w ogof yn disgwyl am yr awr i achub Cymru.
Thema arall yw crefydd a heddychiaeth gan fod Maldwyn yn enwog am ei hemynwyr a'i heddychwyr.
Mae'r thema'n cael ei chyfleu drwy gyfrwng croes a cholomen.
Yn gefndir i hyn mae tirwedd y dalgylch sef tir amaethyddol ac mae'r groes wedi ei llunio ar ffurf afon sy'n symbol o'r afonydd sy'n bwydo cronfeydd dwr yr ardal.
Elfen arall sy'n cael ei chysylltu â Sir Drefaldwyn yw'r canu plygain ac er mwyn cyfleu hynny mae Mr Pryce wedi creu darlun o dri pherson yn ymlwybro tua'r eglwys gyda'u llyfr emynau yn agored, a'r tri wedyn yn symbol o'r Drindod Sanctaidd.
Yn olaf, ymhlyg yn yr arian mae darlun o chwedl Melangell a gwelir ei ffurf yn y goedwig gyda'r adar, y llwynog a'r ysgyfarnog.
Yn ganolbwynt i'r cyfan mae'r nod cyfrin ac mae Mr Pryce wedi dewis defnyddio aur i'w lunio y tro hwn.
"Fe benderfynais i wneud y nod cyfrin mewn aur er mwyn cyfleu'r ffaith fod y Steddfod yn rhywbeth euraidd yng Nghymru," meddai.
'Anrhydedd'
Ni fuasai'r Goron yn gyflawn heb y cap melfed ar ei phen a gwraig Mr Pryce sydd wedi gwnïo'r capiau ac wedi eu gosod ar bob coron y mae wedi eu llunio.
Gyda'r Goron yn barod, mae Mr Pryce yn edrych ymlaen at y seremoni ac yn gobeithio y bydd un o'r 45 o feirdd sydd wedi cystadlu eleni yn ei hennill.
"Mae'n anrhydedd cael llunio'r Goron ar gyfer y 'Steddfod ond mae hefyd yn dipyn o gyfrifoldeb.
"Ond yr hyn yr ydw i'n ei obeithio yn fwy na dim yw y bydd rhywun yn deilwng ohoni eleni."