Ai Owain Glyndwr yw arwr mwyaf Cymru?
|
O ddydd Llun ymlaen mi fydd yna gyfle i bobol nodi ar y we pwy yw eu harwyr.
Ond mae safle 100 Arwyr Cymru yn fwy nag arolwg poblogrwydd.
Bydd gwybodaeth am orchestion Cymry arbennig, fydd yn adeiladu i fod yn adnodd addysgol a diwylliannol gwerthfawr.
Ar Ddydd Gwyl Dewi 2004 bydd enwau'r 100 arwr yn cael eu datgelu.
Culturenet Cymru, sydd â'i bencadlys yn y Llyfrgell Genedlaethol sy'n gyfrifol am y safle, a'r bwriad yw hybu treftadaeth a diwylliant Cymru arlein.
"Rydyn ni eisiau cymaint o bobol â phosib i enwebu eu harwyr gan ddweud pam eu bod yn haeddu bod yn arwr Cymreig'," meddai Alison Coleman, Cyfarwyddwr Culternet Cymru.
Ateb
"Pan fydd y cynllun wedi'i gwblhau mi fydd ganddom ateb i'r cwestiwn, 'Pwy yw'r Cymry amlycaf?"
Mae yna bum dosbarth ar y safle:
Arweinwyr - brenhinoedd, tywysogion, gwleidyddion, protestwyr, chwyldroadwyr, milwyr, saint
Meddylwyr - hanes, addysg, athroniaeth, gwleidyddiaeth, meddygaeth, gwyddoniaeth, crefydd
Perfformwyr - chwaraeon, cerddoriaeth, actio, adloniant
Creadigol - ysgrifenwyr, beirdd, gwneuthurwyr ffilm, penseiri, cynllunwyr, artistiaid
Arloeswyr - gweledyddion, fforwyr, dyfeiswyr, diwydiannwyr, dyngarwyr.
Gall yr arwyr fod o'r presennol neu'r gorffennol, enwog neu anhysbys, ond mi fydd rhaid egluro'r dewis.
Yn ogystal â phleidleisio arlein, bydd modd pleidleisio drwy'r post.
"Mae hwn yn gyfle gwych i enwebu enwogion," meddai Lyn Lewis Dafis o Culternet Cymru.
"Does dim rhaid iddyn nhw fod yn arwyr enwog, fe allen nhw fod yn bobol lleol.
"Ein gobaith ydy gallu rhoi sylw i rai sydd ddim wedi cael cymaint o sylw yn y gorffennol."
Un sydd wedi cael ei enwebu eisoes gan yr athletwraig Tanni Grey-Thompson ydy Gareth Edwards.
Gareth Edwards yn ei anterth yn ystod 1970au
|
"Mae'n deimlad braf cael eich enwebu ac mae'n deimlad pleserus eich bod chi wedi rhoi pleser i bobol eraill.
"Pan oeddwn i'n iau roedd gen i arwyr yn y byd chwaraeon yr oeddwn yn eu hedmygu ac eisiau eu dilyn.
"Fe lwyddais i ac mae'n bwysig bod bobol yn cael arwyr fel y gallen nhw eu dilyn.
"Duncan Edwards y pêl-droediwr a Clive Rowlands oedd fy arwyr i pan yn iau ond mae'n siwr mai Mam a fy ngwraig ydyn nhw erbyn hyn am roi fyny efo fi ar hyd y blynyddoedd," meddai.
Bydd miloedd o bosteri a ffurflenni pleidleisio'n cael eu dosbarthu i ysgolion ac adeiladau cyhoeddus a bydd rhaid i'r enwebiadau gyrraedd erbyn Tachwedd 2003.
Fis Ionawr 2004 cyhoeddir rhestr o'r 100 arwr a bywgraffiadau ohonynt a bydd cyfle i bawb bleidleisio iddyn nhw.
Bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi ar y we wrth i bleidleisiau gael eu derbyn a'r canlyniadau terfynol yn cael eu cyhoeddi ar Ddydd Gwyl Dewi.
Ond pwy ydy eich harwyr chi? Danfonwch neges e-bost atom ni ac fe wnawn ni gyhoeddi'r canlyniadau.
E-bostiwch nhw at BBC Cymru'r Byd drwy glicio yma.
YR ARWYR:
Tommy Farr - Ken o Gorris
Ray Gravell - Dilwen Davies o Langybi, Llanbed
Dafydd Iwan - ydy arwr un o wrandawyr Radio Cymru
William Williams, Pantycelyn yw dewis gwraig o Gaerdydd
Mae gwr a Gwraig o Fae Colwyn yn enwebu Owain Glyndwr a Llywelyn ap Gruffydd
Yr Esgob William Morgan am ei gyfraniad i'r iaith Gymraeg meddai Elan o Ddyffryn Clwyd
Tom Jones - gwraig o Geredigion
John Charles
Cerys Matthews - gwraig o Sir Benfro
Dic Jones oedd dewis gwr o Aberteifi am ei fod wedi rhoi'r dref ar y map
Meic Stevens
Bryn Terfel - meddai gwraig o Aberteifi am fod ganddo bersonoliaeth a llais arbennig
Siân Phillips
Dafydd ap Gwilym
Eigra Lewis Roberts
Archesgob Caer-gaint, Rowan Williams
Mary Vaughan Jones - mam Sali Mali a'i chyfeillion
Gareth Edwards, oedd dewis Mike Roberts
Ron Davies am ei ymadawiad rhyfedd o wleidyddiaeth meddai Hywel Evans
Gwynfor Evans am iddo ysbrydoli'r genedl meddai Jason Morgan
Aneurin Bevan meddai A Rees, Dorothy Davies a Robert Bevan
Arweinydd - Owain Glyndwr;
Meddyliwr - Morgan Llwyd;
Perfformiwr - Tom Jones;
Creadigol - Mary a Gwendolyn Davies;
Arloeswr - Aneurin Bevan ydy dewis Dafydd Parri, Caerdydd
Cefin Roberts o Ysgol Glanaethwy Bangor, am ei holl waith o ddysgu plant ar hyd y blynyddoedd i berfformio, canu a magu hyder. Ei waith yn y cyfryngau, ei hiwmor a'i ddoniau - ydy dewis Nerys. Mae hi hefyd yn nodi Gethin Rhys Williams actor ifanc ar Rownd a Rownd a fu farw drwy ddamwain. Dyfodol disglair a gymerwyd oddi arno
Gwilym Humphreys, cyn-Brifathro Ysgol
Gyfun Rhydfelen a chyn-Gyfarwyddwr Addysg Gwynedd ydy dewis Helen Smith o Fangor am ei waith clodwiw
dros hybu'r Gymraeg ym myd addysg
Gwenallt - Rhys Price
Arweinwyr - Owain Glyndwr; Meddylwyr - Gwynfor Evans; Perfformwyr - John Charles; Creadigol - Dafydd Ap Gwilym; Arloeswyr - William Morgan - meddai Rhys Wynne
Perfformwr - James Dean Bradfield o'r Manic Street Preachers