BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 3 Awst, 2003, 09:37 GMT 10:37 UK
Papurau bro Maldwyn yn arbrofi
Papurau bro Maldwyn
Mae pedwar papur bro yn ardal Maldwyn

Fe fydd papurau bro ardal yr Eisteddfod yn cynnig darpariaeth go wahanol ar y maes ym Meifod eleni a hynny o ganlyniad i arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri.

Mae papurau bro Maldwyn sef Yr Ysgub, Y Blewyn Glas, Plu'r Gweunydd a Seren Hafren wedi derbyn £5,000 gan y loteri er mwyn prynu offer newydd i gynhyrchu'r papur.

O ganlyniad maen nhw wedi prynu cyfrifiaduron symudol a chamerau digidol er mwyn hwyluso'r gwaith.

Bydd cyfle i'r rhai sydd yn ymweld â'r Eisteddfod i ddefnyddio'r offer newydd i greu erthyglau ar gyfer y papurau.

Mae'n gyfle i farchnata'r papurau bro yn yr Eisteddfod ac yn ffordd o ddenu gwaed newydd i'r fenter.
Arfon Huws o Fenter Maldwyn
Fe fydd cyfle iddyn nhw grwydro'r maes yn chwilio am straeon ac yna eu troi'n erthyglau ar y cyfrifiaduron newydd yn y stondin.

Yno yn cynnig arweiniad bydd aelodau pwyllgorau'r papurau ac fe fyddan nhw wedyn yn dangos sut y mae'r erthyglau yn cael eu gosod gyda'i gilydd i ffurfio tudalennau'r papurau bro.

Bydd y cyfan yn cael ei arddangos i'r cyhoedd ar fwrdd gwyn arbennig.

Yn ogystal â denu pobol i ysgrifennu bwriad y cynllun hefyd yw marchnata'r papurau a dangos i'r cyhoedd sut y gellir defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i gynhyrchu'r papurau.

Meddai Arfon Huws o Fenter Maldwyn: "Mae'n gyfle i farchnata'r papurau bro yn y Steddfod ac yn ffordd o ddenu gwaed newydd i'r fenter.

"Bydd cyfle i bobol chwilio am straeon, tynnu lluniau a gwneud erthyglau a'r gobaith yw y bydd hyn yn apelio at bobol ifanc ac yn eu hannog nhw i gyfrannu gan greu diddordeb tuag at waith y papurau bro."

Cyhoeddusrwydd

Mae aelodau pwyllgorau'r papurau yn edrych ymlaen i gael cyd weithio gyda'r cyhoedd yn ystod wythnos y brifwyl.

Nid pobol yr ardal yn unig fydd yn cael bod yn rhan o'r cynllun mae cyfle i bawb chwilio am straeon ac y gobaith yw y bydd hyn yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r papurau.

Meddai Gwyndaf Richards, Cadeirydd Plu'r Gweunydd, Papur Bro y Trallwng a'r cyffiniau: "Y syniad y tu ôl i'r cynllun yw ein bod yn hybu gwaith y papurau bro drwy gyfrwng y gweithdai ar y maes a'r gobaith yw y bydd pobol newydd yn dod i gynhyrchu'r papurau.

Y gobaith yw y bydd y gweithgareddau yn y Steddfod yn hwb i'r papur yn y tymor hir.
Gwyndaf Richards, Cadeirydd Plu'r Gweunydd,
"Meddwl yr ydym ni am ddilyniaeth yn y tymor hir a bydd hyn yn gobeithio yn fodd o ddenu pobol ifanc gan y bydd cyfle iddyn nhw ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i greu straeon.

"Roedden ni'n gweld siawns i gynnig rhywbeth gwahanol gan fod y Steddfod yn yr ardal a'r gobaith yw y bydd y gweithgareddau yn y Steddfod yn hwb i'r papur yn y tymor hir.

"Rydym ni'n gobeithio y bydd pobol yr ardal ar ôl y Steddfod yn awyddus i barhau i ddefnyddio'r offer i greu straeon ar gyfer y papurau".

Mae'r prosiect wedi ei ariannu gan Arian i Bawb Cymru, rhaglen sy'n dosbarthu grantiau'r loteri ac a gafodd ei sefydlu i helpu grwpiau bychain i gael arian.

Meddai Deian Creunant, Llefarydd ar ran y Gronfa Gymunedol: "Rhaglen ydyw lle mae'r tri dosbarth loteri yn dod ar ei gilydd sef y Gronfa Gymunedol, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a'r Gronfa Cyfleoedd Newydd.

"Mae hyn yn golygu fod arian ar gyfer grantiau bach yn mynd i'r un pwll ac felly mae'n haws i bobol wneud cais.

Arian

"Byddan nhw felly yn gwneud cais i un gronfa ac wedyn fe fyddwn ni'n penderfynu o ba gronfa benodol y daw'r arian.

"Wrth ystyried y ceisiadau rydym yn ystyried y budd i'r gymuned a'r budd hir dymor."

Prif nod y rhaglen yw ariannu prosiectau sy'n ymwneud â phobol yn eu cymuned leol gan ddod â nhw at ei gilydd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau.

Mae'r rhaglen yn cynnig grantiau rhwng £500 a £5,000 i grwpiau lleol.

Erbyn yr Eisteddfod fe fydd wedi talu cyfanswm o £4m i brosiectau ar hyd a lled Cymru ers mis Medi 2001 pan dalwyd y grant cyntaf.

Er mwyn nodi'r achlysur fe fydd Alun Pugh, Gweinidog Chwaraeon a Diwylliant y Cynulliad yn ymweld â stondin Arian y Loteri yng Nghymru ar y maes brynhawn Iau, Awst 7.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^