BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 17 Gorffennaf, 2003, 12:51 GMT 13:51 UK
'Llais Saddam' yn gwadu arfau dinistriol
Llun o Saddam Hussein ar deledu Irac, 15 Mawrth 2003
Honnodd y llais fod cyhuddiadau Prydain fod gan Irac arfau dinistriol yn "ddi sail"

Mae neges yr honnir ei bod wedi ei gwneud gan Saddam Hussein wedi datgan mae "celwyddau" oedd dadleuon llywodraethau Prydain ac America dros ymosod ar Irac.

Cafodd y neges ei darlledu ar deledu Al-Arabiya a hynny 35 mlynedd wedi i blaid y Baath, plaid cyn arweinydd Irac, ddod yn blaid lywodraethol am y tro cyntaf yn y wlad.

Honnodd y llais fod cyhuddiadau Prydain fod gan Irac arfau dinistriol yn "ddi sail".

Aeth y llefarydd ymlaen i ganmol y trefi Iracaidd lle mae milwyr America wedi wynebu llu o ymosodiadau.

Galwodd y swyddogion Iracaidd a gafodd eu hapwyntio gan y glymblaid yn "weision" i America.

Cafodd y neges honedig ddiwethaf gan gyn arweinydd Irac ei darlledu ar deledu Al-Jazeera a theledu al-Hayat-LBC o Lebanon lai na phythefnos yn ôl.




HEFYD:
Darlledu 'llais Saddam'
04 Gorff 03  |  Newyddion
Irac: Milwyr ddim yn gadael
15 Gorff 03  |  Newyddion
Irac: Lladd milwr o America
14 Gorff 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^