BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sul, 6 Gorffennaf, 2003, 09:25 GMT 10:25 UK
'Angen heddlu i Gymru'
Arglwydd Carlile
Arglwydd Carlile: Y gwasanaeth tn yn dod o dan y Cynulliad

Mae un o brif gyfreithwyr Prydain wedi galw am sefydlu gwasanaeth heddlu cenedlaethol ar gyfer Cymru.

Fe wnaeth yr Arglwydd Carlile ei sylwadau wrth drafod y modd yr ymchwiliodd Heddlu'r De i lofruddiaeth Lynnette White.

Cafodd tri dyn o Gaerdydd eu carcharu ar gam yn 1990 yn dilyn yr ymchwiliad gwreiddiol.

Ac yn l Cymdeithas y Bargyfreithwyr, dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus i'r modd yr aeth yr heddlu ati i geisio dal llofrudd Lynette White.

Dywedodd yr Arglwydd Carlile, sy'n gyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod hyder y cyhoedd yn yr heddlu wedi'i "sigo".

"Mae hyn yn gofyn cwestiwn ehangach am drefn yr heddlu yng Nghymru," meddai ar BBC Radio Wales.

Arbenigedd

Dywedodd y bydd y gwasanaeth tn yn dod o dan y Cynulliad, a does dim rheswm, meddai, na ddylai'r un peth ddigwydd i'r heddlu.

"Rwyn credu nad ydy'r arbenigedd sydd gan bob heddlu, gan gynnwys Heddlu De Cymru, yn cael ei ganolbwyntio'n iawn."

Arweiniodd ymchwiliad gwreiddiol Heddlu'r De at garcharu tri dyn di-euog yn 1990.

Fe gawson nhw eu rhyddhau ar apl ddwy flynedd wedyn.

Ddydd Gwener cafodd Jeffrey Gafoor o Lanharan ger Penybont ar Ogwr ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio'r butain ugain oed, bymtheg mlynedd yn l.

Roedd rhyddhad ymhlith y rhai oedd yn yr oriel gyhoeddus wedi i'r barnwr ddedfrydu'r swyddog diogelwch 38 oed o Lanharan, ger Pen-y-bont.

"Fe laddoch chi fenyw ifanc mewn modd erchyll," meddai'r Mr Ustus John Royce yn Llys y Goron Caerdydd.

Osgoi cyfiawnder

"Am 15 mlynedd fe lwyddoch i gadw eich cyfrinach ac osgoi cyfiawnder, hyd yn oed pan oedd rhai eraill yn wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth, y llofruddiaeth yr oeddech chi wedi ei chyflawni.

"Carchar am oes yw'r unig ddedfryd addas."

Canmolodd y barnwr yr ymchwiliad newydd, yn enwedig gwaith swyddogion fforensig a gwaith y Ditectif Gwnstabl Paul Williams o Heddlu De Cymru.

Plediodd Gaffoor yn euog yn y llys fore Gwener o lofruddio'r butain Lynette White yng Nghaerdydd 15 mlynedd yn l.

Drwy ei gyfreithiwr ymddiheurodd Mr Gafoor am y llofruddiaeth a nodi nad oedd gan y tri dyn a gafodd eu cyhuddo ar gam ddim rhan o gwbwl yn y drosedd.

Lynette White:
Lynette White: Cafodd ei thrywanu fwy na 50 o weithiau

Roedd ei gyfaddefiad yn golygu diwedd ar un o achosion mwya Heddlu De Cymru.

"Fe lofruddiodd Lynette White ond dim ond fe sy'n gwybod yn union pam, sut a phryd y cyflawnodd y drosedd," meddai'r erlynydd, Patrick Harrington, QC,

"Er iddo gael pob cyfle i roi'r manylion, dyw e ddim wedi gwneud hynny.

"Dyw e ddim yn afresymol i ni dybio iddo fynd i'r fflat am ei bod yn butain ond i rywbeth ddigwydd wrtth iddi dynnu neu wisgo ei dillad," meddai .

"Daeth cyllell i'r golwg a lladdodd Gafoor Lynette White."

Rhyddhaodd teulu Lynette White ddatganiad.

'Gweld ei heisiau'

"Ry'n ni'n gweld ei heisiau bob dydd," meddai'r datganiad.

"Carem ni ganmol gwaith y ditectifs ac ry'n ni'n gobeithio y gall Lynette orffwys mewn hedd."

Ar ddiwedd yr achos cyhoeddodd Heddlu'r De ddatganiad.

"Mae hon yn garreg filltir hollbwysig i'r heddlu," meddai'r Prif Uwcharolygydd Wynne Phillips, Pennaeth yr Uned Troseddau Difrifol.

"Mae hon yn garreg filltir o ran ymroddiad yr heddlu i adolygu ac ailymchwilio hen achosion.

"Yn fwy na dim, mae hwn yn ddiwrnod all olygu diwedd cyfnod trychinebus i deulu a ffrindiau Lynette White.

"Ry'n ni'n meddwl amdanyn nhw."

Cafodd y swyddog diogelwch ei arestio yn Chwefror eleni wedi datblygiadau ym maes DNA.

Fe laddoch chi fenyw ifanc mewn modd erchyll
Mr Ustus John Royce
Wedi i'r achos gael ei adolygu lansiodd Heddlu De Cymru ymchwiliad newydd.

Cafodd y fflat ei harchwilio'n drylwyr a daethpwyd o hyd i sampl DNA o dan baent ar sgertin.

Cafwyd hyd i gorff Miss White ar Ddydd San Ffolant 1988 uwchben siop fetio yn Nhrebiwt, Caerdydd.

Roedd hi wedi ei thrywanu fwy na 50 o weithiau.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd tri dyn, Tri Caerdydd, eu carcharu ar gam.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach cawson nhw eu rhyddhau wedi i'r Llys Apl ddiddymu'r dyfarniad.




GWYLIWCH A GWRANDEWCH
Adroddiad Alun Thomas, BBC Cymru
"Diwedd i un o achosion amlyca Heddlu'r De "


Owain Evans yn holi Bethan Williams, BBC Cymru
"Golygfeydd anhygoel o ddramatig"


Adroddiad Bethan Williams BBC Cymru
"Mae cwmwl mawr wedi'i godi..."



HEFYD:
Lladd yn arwain at gamwedd
04 Gorff 03  |  Newyddion
Datganoli'r Gwasanaeth Tn
30 Meh 03  |  Newyddion



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^