BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 5 Gorffennaf, 2003, 10:11 GMT 11:11 UK
Cymuned 'i helpu mewnfudwyr'
Cymuned
Trafodir sefydlu cymdeithasau tai yn y gynhadledd
Bydd mudiad Cymuned yn cynnal ei chynhadledd flynyddol yn Harlech ddydd Sadwrn, ac un o'r cynigion fydd helpu mewnfudwyr i ymdoddi i'r gymuned.

Ymhlith y cynigion a drafodir bydd:

  • Cynnig i awdurdodau lleol gynnig grantiau adleoli i frodorion sydd wedi symud o'r ardal fel y gall pobl gael eu cynorthwyo i ddychwelyd i fro eu mebyd

  • Cynnig i gynnal gweithdai i hyfforddi aelodau Cymuned i sefydlu cymdeithasau tai cydweithredol bychain

  • Cynnig i aelodau fabwysiadu mewnfudwr yr un er mwyn eu helpu i ymdoddi i'r gymuned.

    Mae yna, hefyd, gynigion ynglýn â chyflogaeth, côd Cymuned ar gyfer arwerthwyr tai, amddiffyn sefydliadau uniaith Gymraeg, ystyried dewisiadau gwleidyddol y mudiad, hen ganiatadau cynllunio, Cynllun Datblygu Unedol Ceredigion ac Addysg Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru.

    "O edrych ar y cynigion yn eu cyfanrwydd byddwn i'n dweud mai'r brif thema yw ein gwaith cymunedol," meddai Simon Brooks ar ran y mudiad.

    'Ffres a newydd'

    "Yn bendant, mae rhai o'r syniadau yma - megis mabwysiadu mewnfudwyr a grantiau adleoli i bobol sydd wedi symud i ffwrdd, efallai i Gaerdydd neu Loegr, i ddychwelyd i fro eu mebyd - yn rhai ffres a newydd.

    "Dangosodd canlyniadau iaith Cyfrifiad 2001 a ryddhawyd yr wythnos yma fod gostyngiad arall wedi bod yn nifer a chryfder ein cymunedau Cymraeg.

    "Ond ni fydd Cymuned yn digalonni nag yn chwifio'r faner wen.

    "Yn wir, ni fu amser gwell i ni ddod at ein gilydd er mwyn cadw a datblygu hynny o gymunedau Cymraeg sydd ar ôl."




  • HEFYD:
    Cymuned: Tystiolaeth i'r CU
    12 Mai 03  |  Newyddion
    AC yn 'cefnogi amcanion' Cymuned
    13 Meh 03  |  Newyddion


    CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^