BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 21 Mai, 2003, 10:35 GMT 11:35 UK
Cyn-filwyr yn colli achos llys
Syr Galahad
Cafodd 50 o'r Gwarchodlu Cymreig eu lladd ar y Syr Galahad
Mae cannoedd o gyn-aelodau o'r lluoedd arfog sy'n dioddef o broblemau seicolegol ar ôl gwasanaethu yn y fyddin, wedi colli eu hachos yn yr Uchel Lys i hawlio iawndal gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Roedd y cyn-filwyr yn hawlio nad oedd y Weindyddiaeth Amddiffyn wedi'u paratoi nhw yn ddigonol ar gyfer erchyllterau rhyfel.

Roedd 40 o'r Gwarchodlu Cymreig oedd ar fwrdd llong y Syr Galahad yn ystod Rhyfel y Falklands, ymhlith y rhai wnaeth gais.

Rydym wedi sicrhau fod milwyr yn osgoi clefyd straen ers blynyddoedd. Rydym yn cymryd hyn o ddifri'
Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae'r cyn-filwyr wedi bod yn gwasanaethu ym Mosnia, Rhyfel Cyntaf y Gwlff, y Falkands neu Ogledd Iwerddon.

Dyma'r achos mwya' yn erbyn y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Petai'r achos wedi llwyddo fe fyddan nhw wedi wynebu talu cannoedd o filiynau o bunnoedd.

Dywedodd y cyfreithiwr, John Mackenzie, wrth y BBC fod y clefyd straen, PTSD, wedi effeithio'n fawr ar gyn-filwyr yn feddyliol ac yn emosiynol.

Milwyr Rhyfel Cyntaf y Gwlff
Mae milwyr Rhyfel Cyntaf y Gwlff, hefyd, yn dioddef problemau
"Dylai'r Weinyddiaeth Amddiffyn fod wedi canfod a thrin y clefyd yn well," meddai.

"Mae'r clefyd wedi cael ei gydnabod ers y Rhyfel Byd Cynta' a hyd yn oed yn gynt."

Roedd yn credu y gallai'r achos arwain at achosion tebyg ar ran gweithwyr yn y gwasanaethau brys.

Cafodd 50 o'r Gwarchodlu Cymreig eu lladd ar y Syr Galahad yn Bluff Cove yn ystod Rhyfel y Falklands.

Mae eu cyd-filwyr yn honni eu bod yn ddi-waith ers hynny ac mae rhai'n dweud nad ydyn nhw wedi cael noson dda o gwsg ers yr ymosodiad.




GWYLIWCH A GWRANDEWCH
Gareth Davies, BBC Cymru
"Y canlyniad wedi siomi ymgyrchwyr"



HEFYD:
Trin cyn-filwyr: Pryder am arian
20 Mai 03  |  Newyddion
Ymchwiliad i farwolaeth milwr ifanc
01 Ebr 00  |  Newyddion
Milwyr mewn damwain
14 Ion 00  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^