Lynette White: Cafodd ei thrywanu fwy na 50 o weithiau
|
Mae Jeffrey Gafoor wedi ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio Lynette White.
Roedd rhyddhad ymhlith y rhai oedd yn yr oriel gyhoeddus wedi i'r barnwr ddedfrydu'r swyddog diogelwch 38 oed o Lanharan, ger Pen-y-bont.
"Fe laddoch chi fenyw ifanc mewn modd erchyll," meddai'r Mr Ustus John Royce yn Llys y Goron Caerdydd.
"Am 15 mlynedd fe lwyddoch i gadw eich cyfrinach ac osgoi cyfiawnder, hyd yn oed pan oedd rhai eraill yn wynebu cyhuddiad o lofruddiaeth, y llofruddiaeth yr oeddech chi wedi ei chyflawni.
"Carchar am oes yw'r unig ddedfryd addas."
Canmolodd y barnwr yr ymchwiliad newydd, yn enwedig gwaith swyddogion fforensig a gwaith y Ditectif Gwnstabl Paul Williams o Heddlu De Cymru.
Plediodd Gaffoor yn euog yn y llys fore Gwener o lofruddio'r butain Lynette White yng Nghaerdydd 15 mlynedd yn ôl.
Drwy ei gyfreithiwr ymddiheurodd Mr Gafoor am y llofruddiaeth a nodi nad oedd gan y tri dyn a gafodd eu cyhuddo ar gam ddim rhan o gwbwl yn y drosedd.
Sampl DNA: Yn fflat Lynette
|
Roedd ei gyfaddefiad yn golygu diwedd ar un o achosion mwya Heddlu De Cymru.
"Fe lofruddiodd Lynette White ond dim ond fe sy'n gwybod yn union pam, sut a phryd y cyflawnodd y drosedd," meddai'r erlynydd, Patrick Harrington, QC,
"Er iddo gael pob cyfle i roi'r manylion, dyw e ddim wedi gwneud hynny.
"Dyw e ddim yn afresymol i ni dybio iddo fynd i'r fflat am ei bod yn butain ond i rywbeth ddigwydd wrtth iddi dynnu neu wisgo ei dillad," meddai .
"Daeth cyllell i'r golwg a lladdodd Gafoor Lynette White."
Rhyddhaodd teulu Lynette White ddatganiad.
"Ry'n ni'n gweld ei heisiau bob dydd," meddai'r datganiad.
"Carem ni ganmol gwaith y ditectifs ac ry'n ni'n gobeithio y gall Lynette orffwys mewn hedd."
Ar ddiwedd yr achos cyhoeddodd Heddlu'r De ddatganiad.
"Mae hon yn garreg filltir hollbwysig i'r heddlu," meddai'r Prif Uwcharolygydd Wynne Phillips, Pennaeth yr Uned Troseddau Difrifol.
"Mae hon yn garreg filltir o ran ymroddiad yr heddlu i adolygu ac ailymchwilio hen achosion.
"Yn fwy na dim, mae hwn yn ddiwrnod all olygu diwedd cyfnod trychinebus i deulu a ffrindiau Lynette White.
"Ry'n ni'n meddwl amdanyn nhw."
Cafodd y swyddog diogelwch ei arestio yn Chwefror eleni wedi datblygiadau ym maes DNA.
Fe laddoch chi fenyw ifanc mewn modd erchyll
|
Wedi i'r achos gael ei adolygu lansiodd Heddlu De Cymru ymchwiliad newydd.
Cafodd y fflat ei harchwilio'n drylwyr a daethpwyd o hyd i sampl DNA o dan baent ar sgertin.
Cafwyd hyd i gorff Miss White ar Ddydd San Ffolant 1988 uwchben siop fetio yn Nhrebiwt, Caerdydd.
Roedd hi wedi ei thrywanu fwy na 50 o weithiau.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cafodd tri dyn, Tri Caerdydd, eu carcharu ar gam.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, cawson nhw eu rhyddhau wedi i'r Llys Apêl ddiddymu'r dyfarniad.