BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 20 Mai, 2003, 10:16 GMT 11:16 UK
Irac: America yn cyhoeddi cynllun
Gosod baner America ar gerflun Saddam Hussein
Mae America yn parhau yn ddylwanwadol iawn yn y Irac wedi'r rhyfel

Mae America wedi cyhoeddi ei chynllun drafft ar gyfer ail-adeiladu Irac i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.

Fe fydd y Cyngor yn trafod y cynllun yn ddiweddarach ddydd Mawrth a dywedodd llysgennad America i'r Cenhedloedd Unedig, John Negroponte, y dylai'r aelodau fod yn barod ar gyfer pleidlais derfynol o ddydd Mercher ymlaen.

Mae'r cynllun yn rhoi rhan i'r Cenhedloedd Unedig mewn dewis llywodraeth newydd yn Irac ac am y tro cyntaf yn cyfeirio at arolygwyr arfau'r Cenhedloedd Unedig.

Mae Rwsia wedi bod yn awyddus iawn i sicrhau fod y Cenhedloedd Unedig yn chwarae rhan allweddol yn adfer Irac.

Un rheswm am hynny yw bod Rwsia am osgoi colli'r biliynau o ddoleri yr oedd Baghdad yn ddyledus iddi a cholli'r arian yr oedd wedi ei fuddsoddi mewn prosiectau yn ymwneud ag olew.

Mae China a Ffrainc, oedd hefyd yn gwrthwynebu'r rhyfel yn erbyn Irac, yn cefnogi safbwynt Rwsia.

Mae gan y tair gwlad hawl i feto yn y Cyngor Diogelwch.

Cafodd y drafft ei gyflwyno nos Lun ac mae'n dangos fod nifer o gonsesiynau wedi eu gwneud.

  • Fe fyddai cynrychiolydd arbennig y Cenhedloedd Unedig yn gweithio gyda'r pwerau eraill sydd wedi meddiannu Irac i greu llywodraeth newydd yn Irac. Hefyd fe fyddai'r Cenhedloedd Unedig yn trafod gwaith yr archwilwyr arfau er nad oes sn am eu hanfon yn l i Irac fel y dymuna Ffrainc a Rwsia.

  • Fe fyddai America a Phrydain yn parhau i feddu Irac hyd nes bod "llywodraeth gynrychioliadol sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol wedi ei sefydlu gan bobol Irac ac yn dechrau cymryd y cyfrifoldebau". Yn wreiddiol roedd America am i'r grymoedd oedd wedi meddiannu'r wlad aros yno am o leiaf 12 mis.

  • Fe fydd rhaglen ddyngarol y Cenhedloedd Unedig, olew am fwyd, yn cael ei osod am gyfnod o chwe mis ac nid pedwar.

  • Fe fydd systemau amrywiol yn gweithredu i ymdrin dyledion Irac. Mae hyn yn lleddfu pryderon Rwsia y byddai America yn datgan fod rhai o'r dyledion yn ddi-werth.




  • HEFYD:
    Dryswch dros ail adeiladu Irac
    16 Mai 03  |  Newyddion
    Milwyr Cymreig yn dychwelyd o Irac
    15 Mai 03  |  Newyddion
    Cloddio bedd enfawr yn Irac
    14 Mai 03  |  Newyddion


    CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
    Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


    Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


    Yn ôl i'r brig ^^