BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 24 Mai, 2003, 10:16 GMT 11:16 UK
Gwella gyda phlanhigion
Middleton, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru
Mae'r teithiau'n galluogi ymwelwyr i gael rhagor o fwynhad o'u hymweliad
Bydd ymwelwyr i Middleton, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yn cael eu tywys yn l i niwl y gorffennol i ganfod sut y defnyddiodd yr hen iachawyr ein planhigion cynhenid i wella afiechydon.

Ddydd Sadwrn cyflwynir Trywydd Planhigion a Iechyd, fydd hefyd yn esbonio llwyddiannau gwyddonwyr modern wrth gynhyrchu meddyginiaethau o blanhigion.

Yn ddiweddar, mae gwyddonwyr wedi dod o hyd i'r triniaethau yma yn eu cynefinoedd ac mae Cymru yn flaengar iawn yn y cyswllt yma.

Mae'r Trywydd yn olrhain hanes Meddygon Myddfai, sydd wedi eu cysylltu hen draddodiadau a sgiliau meddygol Derwyddon ac offeiriaid Celtaidd.

Caiff ymwelwyr wybodaeth, er enghraifft, ar sut y defnyddir bysedd y cwn (sydd i'w gweld yng Ngardd yr Apothecari yn Middleton) i drin clefydau'r galon.

Esbonir hefyd y modd mae'r ywen ar flaen y gd yn y frwydr i wella canser.

Llwybr newydd
Fe wnaeth y llwybr newydd agor ddydd Sadwrn
Y Trywydd yma yw'r ail mewn cyfres newydd ac mae'n dilyn Trywydd Treftadaeth, sy'n tywys ymwelwyr trwy ddwy ganrif o hanes y std.

Yn l Judith Davies, Swyddog Marchnata Middleton, mae'r teithiau yma'n boblogaidd iawn.

"Mae'r teithiau yma'n galluogi ein hymwelwyr i gael rhagor o fwynhad o'u hymweliad yma," meddai.

"Mae'n hynod ddiddorol i weld y modd mae meddyginiaethau modern yn ddibynnol ar blanhigion a sut mae rhai triniaethau naturiol a chwedlonol wedi eu defnyddio am ganrifoedd."

Cyflwynir Trywydd Planhigion a Dwr ym mis Gorffennaf i gynnwys nodweddion dyfrol eang Middleton.

Bydd un arall o'r enw Helwyr Planhigion yn olrhain hanes darganfyddwyr y 18ed ganrif.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^