Mae pryder am effaith y datblygiad ar fywyd cymunedol Ceredigion
|
Mae rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi meddiannu un o gaeau'r Cynghorydd Dai Lloyd Evans, Arweinydd Cyngor Ceredigion.
Fe sefydlodd pum aelod o'r gymdeithas wersyll ar y cae, sydd ar gyrion Tregaron, tua 2100 BST nos Lun.
Bwriad y weithred yw dangos gwrthwynebiad y gymdeithas i Gynllun Datblygu Unedol Ceredigion sy'n argymell codi 6,500 o dai dros y blynyddoedd nesaf.
Byddai codi 6,500 o dai yn gwbwl niweidiol i ffyniant cymunedol Ceredigion ac i barhad y Gymraeg fel iaith fyw
Angharad Clwyd, cadeirydd Rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith
|
Mae'r cae oddi mewn i ffiniau'r cynllun hwnnw.
Mae'r gymdeithas yn honni y gallai'r Cynghorydd Dai Lloyd Evans wneud cannoedd o filoedd o bunnoedd o'r datblygiad dadleuol ar y tir yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Meddai Angharad Clwyd, cadeirydd Rhanbarth Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith: "Cred Cymdeithas yr Iaith fod y tir dan sylw yn arwydd o'r ffordd fympwyol yr aeth Cyngor Ceredigion ati i rannu tir ar gyfer y Cynllun Datblygu Unedol.
Ymgyrch
"Byddai codi 6,500 o dai yn gwbwl niweidiol i ffyniant cymunedol Ceredigion ac i barhad y Gymraeg fel iaith fyw."
Dywed Cymdeithas yr Iaith eu bod yn bwriadu aros ar y tir am 24 awr.
Mae'r weithred yn rhan o ymgyrch hir dymor y gymdeithas yn erbyn Cyngor Ceredigion sydd yn bwriadu adeiladu'r 6,500 o dai erbyn 2016.
Meddai Huw Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Fe fyddai adeiladu'r tai hyn yn tanseilio bywyd cymunedol yng Ngheredigion yn ogystal â'r iaith Gymraeg.
"Mae'n rhaid i'r cyngor seilio'r cynllun ar anghenion lleol sydd yn ystyried y lefel uchel y mewnfudwyr sydd wedi dod i Geredigion ers dechrau'r 1980au" ychwanegodd.
Ar hyn o bryd mae'r Cyngor Sir wedi dechrau ar y broses o ystyried y gwrthwynebiadau a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2002 i fersiwn drafft y Cynllun Datblygu Unedol.
Fe fydd y fersiwn nesaf yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref.
Ffrae
Ymateb y Cynghorydd Evans i'r digwyddiad oedd:"Gobeithio y byddan nhw i gyd yn mwynhau eu hunain yno".
Gwrthododd wneud unrhyw sylw pellach.
Fe ddechreuodd y ffrae am bolisïau tai a chynllunio Ceredigion yn 2002 wedi i raglen materion cyfoes y BBC, Week In Week Out, ddatgelu fod y Cynghorydd Evans yn berchen ar ddau gae ger Tregaron sydd wedi eu clustnodi ar gyfer datblygu.
Fe brynodd y tir cyn y trafodwyd y cynllun datblygu a chyfaddefodd ei fod yn gwybod y byddai gwerth y tir yn codi pe bai'n cael ei ddatblygu.
Mae wedi gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.