Annerch: Bu cynrychiolydd Cymuned yn rhoi tystiolaeth yn Genefa
|
Mae un o gynrychiolwyr Cymuned wedi cyflwyno tystiolaeth i'r Cenhedloedd Unedig am ddyfodol cymunedau Cymraeg.
Fore Llun, siaradodd Dr Jerry Hunter ar ran y grwp yng nghyfarfod blynyddol GWeithgor y Cenhedloedd Unedig ar Leiafrifoedd yn Genefa.
Anerchodd bum aelod o'r gweithgor a chynrychiolwyr o ryw 50 o wladwriaethau.
Dywedodd bod cymunedau Cymraeg yn diflannu oherwydd nad oedd y Llywodraeth yn barod i ymyrryd yn y farchnad dai.
"Mae rhyddid cymunedau Cymraeg i gadw a datblygu hunaniaeth ddiwylliannol mewn peryg, nid oherwydd gormes uniongyrchol gan y Llywodraeth, ond oherwydd pwysau economaidd na fu Llywodraeth y Cynulliad yn barod i'w wynebu," meddai Dr Hunter.
Wedi ei gyflwyniad dywedodd Cadeirydd y Gweithgor ar Leiafrifoedd, Mr Asbjorn Eide, y byddai'n cyfeirio'r mater at gofnodwr y CU ar yr hawl i berchnogi tai.
"Mae eich achos yn enghraifft ddiddorol o'r gwrthdaro rhwng grymoedd economaidd a'r angen i gadw hawliau ieithyddol a diwylliannol," meddai.
"Mae cofnodwr arbennig yn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer yr hawl i dai, ac fe wnawn ni dynnu eu sylw at hyn."