BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 20 Mehefin, 2003, 06:06 GMT 07:06 UK
Cyfraniad Cymry i'r Pethe
Mae nifer o Gymry yn cael eu hanrhydeddu i Orsedd Y Beirdd eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau.

Fe fydd y diweddar Athro Phil Williams, y newyddiadurwr Sulwyn Thomas, yr actor Ioan Gruffudd a gwr a gwraig o Landegfan, Ynys Mn, Gwyneth ac Edward Morus Jones, yn cael eu hurddo.

Dyma restr lawn o'r bobol eraill fydd yn cael eu hanrhydeddu eleni:
Urdd Ofydd er Anrhydedd:

Eirlys Cawdrey, Casnewydd Yn enedigol o Lanon, Ceredigion, fe ddilynodd cwrs i fod yn ddietegydd. Bu'n gweithio fel dietegydd, gan arbenigo mewn anhwylderau plant. Bu'n weithgar gydag Eisteddfod Casnewydd yn 1988 ac mae'n edrych ymlaen yn frwd at yr Eisteddfod yn yr ardal yn 2004.

Mair Lloyd Davies, Tregaron Yn enedigol o Fwlch-y-llan, bu'n weithgar iawn gyda'r Pethe. Mae'n feirniad llefaru cenedlaethol ac mae wedi bod yn weithgar yn y capel, yr eisteddfodau a Merched y Wawr yng Ngheredigion, gan gyfoethogi bywyd diwylliannol yr ardal.

Janet Maureen Hughes, Llanrwst Yn enedigol o Aberangell, bu'n athrawes gerdd yn Nyffryn Conwy ac yn bennaeth ysgolion cynradd Maenan a Rowen. Mae'n hyfforddwraig ar gr llwyddiannus Cr Merched Carmel ac yn feirniad cerdd.

Ben Jones, Caerffili Un o Gwm-gors, Cwm Tawe, a dreuliodd oes yn y byd addysg. Dechreuodd ei yrfa yng Nghaerdydd a Chaerffili cyn bod yn brifathro ysgolion Ynys Wen, Treorci, a Chaerffili. Bu'n weithgar ym myd y Pethe yng Nghwm Rhymni ac yn weithiwr diflino dros yr iaith.

Lona Jones, Penrhyncoch Cafodd ei magu ym Machynlleth yn ferch i'r diweddar William a Myfi Williams. Ers 1993 bu'n aelod o staff y Llyfrgell Genedlaethol. Mae'n ddarllenydd lleyg yn yr Eglwys yng Nghymru ac yn frwd dros y Gymraeg yn cael lle amlwg yng ngwasanaethau'r Eglwys yng Nghymru.

Edith Macdonald, Chubut, Patagonia Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan bwysig o'i bywyd ers ei phlentyndod a bu'n rhan allweddol o'i bywyd ym Mhatagonia. Roedd ei dylanwad yn allweddol i sefydlu ysgol hyfforddi yn athrawon i ddysgu cerdd yn ysgolion y dalaith. Mae'n gefnogol i bob achos Cymraeg a Chymreig yn Y Wladfa. Yng ngorsedd Y Wladfa mae'n cael ei hadnabod fel Edith Brynalaw.

Gareth Owen, Pencaenewydd Er mai o Lanllyfni, Dyffryn Nantlle, yn enedigol, mae'n byw ym Mhen Llyn. Eleni mae'n dathlu 40 mlynedd ers iddo ddechrau ar ei yrfa fel gwr camera i gwmnau teledu. Mae wedi bod yn gweithio ar amryw o gyfresi ac yn ystyried hi'n fraint o geisio cadw agweddau ar ddiwylliant Cymru rhag mynd i ddifancoll.

Owain Aneurin Owain, Llansannan Yn Gyfarwyddwr Cais, yr asiantaeth Alcohol a Chyffuriau yng Nghymru, cafodd ei eni yn Mizoram lle'r oedd ei dad yn genhadwr a'i fam yn athrawes. Mae'n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol ar Alcohol a Chyffuriau.

Laura Richards, Y Foel Un o Langadfan, Powys, a roddodd oes o waith i'r Pethe yn ei hardal. Hi sy'n gyfrifol am y tlysau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1981. Lowri Cadfan ydy ei henw yng Ngorsedd Powys ac mae'n gefn i Eisteddfod Powys.

Nansi Selwood, Penderyn Yn enedigol o blwy Penderyn, bu'n gweithio yn y byd addysg fel athrawes Hanes a Chymraeg mewn ysgolion uwchradd ac yn dysgu mewn ysgolion cynradd. Mae hi wedi chwarae rhan allweddol mewn cymdeithasau yn ei hardal. Derbyniodd wobr yn 1988 am ei nofel Brychan Dir.

Gareth Williams, Llanbrynmair Gwr a roes wasanaeth maith ac anhunanol i'r Eisteddfod Genedlaethol am dros 30 mlynedd. O 1973 hyd 1982 bu'n stiwardio yn yr Eisteddfod.

Urdd Derwydd er Anrhydedd:

Jayne Davies, Y Drenewydd Yn enedigol o'r hen Sir Fynwy mae hi bellach wedi ymsefydlu yn Y Drenewydd ac wedi rhoi cyfraniad drwy ei hoes i gerddoriaeth yn ei bro. Bu'n gyfeilydd eisteddfodol ac yn Llangollen hefyd ac mae ei chr, Cr Merched Hafren wedi cael cryn lwyddiant. Mae hi wedi gwneud nifer o drefniadau chwaethus o'n caneuon gwerin.

R Karl Davies, Caerdydd Gwr sydd wedi bod yn weithgar o fewn y mudiad iaith a'r mudiad cenedlaethol ers dyddiau cynnar. Yn Olygydd Tafod y Ddraig a chyn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fe fu'n gweithio gyda Phlaid Cymru, i ddechrau fel ymchwilydd seneddol i ddau AS cyn dringo'r ysgol a dod yn brif weithredwr. Bellach mae'n Brif Weithredwr Cymdeithas y Prifathrawon

Heini Gruffudd, Abertawe Gwr sydd wedi rhoi oes i weithio dros yr iaith Gymraeg yn genedlaethol ac yn lleol. Yn athro, ymgyrchydd, llenor ac academydd. Fe ydy Cadeirydd Rhieni dros Addysg Gymraeg ac yn awdurdod cydnabyddedig rhyngwladol ar gymdeithaseg iaith.

John Hefin, Y Borth, Aberystwyth Cynhyrchydd a chyfarwyddwr enwog. Mae ei ddoniau creadigol yn ddylanwad trwm ar y sgrn deledu ac mae ei gynhyrchiadau yn amrywio o Bobol y Cwm i Un Nos Ola Leuad, Penyberth a Stafell Ddirgel. Mae wedi gwneud cynhyrchiadau Cymreig, gan gynnwys Off to Philadelphia in the Morning.

Huw Jones, Betws, Rhydaman Un a gafodd ei eni yn Y Betws ac wedi cyfnod byr yng Nghaerdydd dychwelodd i'w filltir sgwar i weithio yng ngwaith y cwmni. Bellach mae'n Reolwr Gyfarwyddwr cwmni peirianwaith sifil mwya de ddwyrain Cymru. Un sydd wedi gweithio yn wirfoddol dros nifer o achosion ym mor ei febyd ac un sydd wedi bod yn gefnogol i'r Eisteddfod Genedlaethol ac yn gefn i'w wraig, Meistres y Gwisgoedd yn yr Orsedd, Sin Aman.

Pat Jones, Chwilog Un yn enedigol o Sir Benfro ond ers 1984 wedi ymgartrefu yn Chwilog. Mae'n gerddor, arweinydd a chyfeilydd adnabyddus drwy Gymru a thu hwnt. Mae'n arweinydd nifer o gorau, Cr Meibion Hendygwyn, Cr Meibion yr Eifl, Cr Merched Lleisiau'r Gest a Chr Eifionydd. Mae ei medr, ei hymroddiad a'r gwasanaeth a gafwyd ganddi yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol yn glodwiw.

Y Parchedig Gareth Maelor Jones, Dinas, Caernarfon Yn bregethwr grymus a gyfrannodd yn helaeth dros y blynyddoedd i bulpud Cymru ac yn arbennig i feysydd yn ymwneud phlant a phobol ifanc. Roedd yn gyfrifol am y cylchgrawn Antur 1977-1992. Mae'n awdur degau o lyfrau amrywiol. Yn gyn-athro o Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, ac yn wr a gynhaliodd y Pethe ym mhob cylch y bu'n troi ynddo.

Eddie Jones, Bow Street, Ceredigion Yn enedigol o Fethel, Arfon, bu'n athro ysgol gan orffen ei ddyddiau cyn ymddeol fel Prifathro Ysgol Rhydypennau. Rhoddodd oes o wasanaeth i ddawnsio gwerin fel hyfforddwr, beirniad cenedlaethol ac enillydd cyson mewn cystadleuthau cyfansoddi dawns. Mae'n awdur nifer o lyfrau dawnsio gwerin a dwy gyfrol swmpus o emynau modern ar gyfer plant ysgolion cynradd.

Dafydd Morgan Lewis, Aberystwyth Un o feibion Maldwyn sydd yn gweithio'n ddiflino dros yr iaith Gymraeg fel un o swyddogion cyflogedig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bu'n athro ac yn gweithio gyda'r Academi Gymreig a'r Llyfrgell Genedlaethol. Eleni ef oedd un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn.

Y Barnwr Wyn Rees, Pentyrch Cymro a wnaeth gyfraniad gwirfoddol mawr i ddatblygu addysg Gymraeg ym Morgannwg ac yn genedlaethol. Roedd yn ysgrifennydd cyntaf mudiad Rhieni dors Addysg Gymraeg. Bu'n gyfrifol am le'r Gymraeg o fewn defnyddiau i athrawon a'r Cwricwlwm Cenedlaethol.

Huw Roberts, Pwllheli Gwr gyfrannodd yn sylweddol i fyd y theatr amatur a phroffesiynol yng Nghymru am dros 50 mlynedd. Ers 1985 mae'n aelod o banel drama'r Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n awdur tair drama lwyfan ei hun, dwy a gomisiynwyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae wedi ysgrifennu nifer o ddramu teledu ac ers cychwyn Pobol y Cwm bu ganddo gysylltiad Chwmderi.. Bu'n athro Gwyddoniaeth yn Ysgol Botwnog am dros 30 mlynedd.

Haydn Thomas, Y Fenni Brodor o'r Hendy, Pontarddulais, a symudodd i'r gogledd fel athro. Cafodd ei benodi yn brifathro cyntaf Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Bu ei ymroddiad diflino a'i arweinydd cadarn, a gynhwysai gyfieithu a golygu gwerslyfrau mewn cyfnod prin ei adnoddau, yn elfen allweddol ac arloesol. Bellach wedi dychwelyd i'r de, mae'n dal yn frwd dros y Pethe.

Dr Peter Wyn Thomas, Caerdydd Yn enedigol o ardal Y Rhyl bu'n ddarlithydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Dulyn cyn symud i Gaerdydd. Derbyniodd gadair bersonol yno yn 2000. Mae'n awdur nifer o lyfrau ac erthyglau ac fe gyhoeddodd gyfrol 800-tudalen Gramadeg y Gymraeg sydd yn cael ei hystyried fel gramadeg safonol yr iaith.

Derec Williams, Llanuwchlyn Gwr sy'n cael ei gysylltu gyda Chwmni Theatr Maldwyn. Fe sefydlodd y cwmni ar gyfer Eisteddfod Maldwyn yn 1981 gyda Penri Roberts a Linda Gittins. Bu'n gyfrifol am roi cyfle i bobol ifanc Canolbarth Cymru ym myd y theatr am dros 20 mlynedd. Mae'r Eisteddfod Genedlaethol a'r sioeau wnaeth y cwmni eu cynhyrchu wedi elwa'n fawr o'i gyfraniad.

John Eric Williams, Pwllheli Brodor o Bwllheli a fu'n athro yn Lerpwl cyn dychwelyd i Gymru i fod yn Drefnydd Gwersylloedd a Chwaraeon Urdd Gobaith Cymru. Bu'n bennaeth Glan Llyn am 15 mlynedd ac yn Gyfarwyddwr Urdd Gobaith Cymru am 14 mlynedd. Mae miloedd o blant Cymru wedi elwa o'r profiadau a gawsant o dan ei ofal. Bu'n weithgar iawn yn y cylchoedd diwylliannol ym Mhenllyn, Aberystwyth a Phen Llyn. Bu'n lladmerydd cryf a chyson dros yr iaith a'i diwylliant.

Fe fydd William John Davies o Lanbrynmair a Dr Prydwen Elfed-Owens, Trefnant, yn cael eu hurddo o'r wisg werdd i'r wisg wen.




HEFYD:
Gorsedd yn anrhydeddu Cymry
20 Meh 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^