Bu farw'r Athro Phil Williams yr wythnos ddiwethaf
|
Ymhlith y Cymry fydd yn cael eu hanrhydeddu i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau eleni y mae un o gyflwynwyr BBC Radio Cymru ac un o sêr y byd ffilmiau.
Ar y rhestr a gyhoeddwyd ddydd Gwener y mae enw'r Athro Phil Williams, cyn-aelod Plaid Cymru yn y Cynulliad, a fu farw yr wythnos ddiwethaf.
Roedd yr Athro Williams yn un o wyddonwyr mwyaf disglair Cymru ac yn un o aleodau cyntaf Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol cyntaf.
Yr Athro Williams wnaeth ddyfeisio'r dull o fesur maes magnenegedd ac yn 1991 derbyniodd ei gadair bersonol yn Adran Ffiseg Prifysgol Cymru Aberystwyth.
Dysgodd Gymraeg ac yn 1991 darlithiodd Ddarlith Wyddonol yn Eisteddfod Cwm Rhymni yn 1990.
Roedd yn weithgar o fewn Plaid Cymru ac yn gyfrifol am ddogfen econmaidd y blaid.
Fe fydd y newyddiadurwr Sulwyn Thomas yn cael ei urddo i'r wisg wen.
Thomas: Un o leisiau enwoca Radio Cymru
|
Mae'r gwr o Gaerfyrddin yn un o leisiau amlyca BBC Radio Cymru ers y 1970au.
Fe fu'r rhaglen Stondin Sulwyn yn un o raglenni mwyaf poblogaidd yr orsaf am dros 25 mlynedd ac yn gyfle i bobol gael dweud eu dweud ac roedd ffordd arbennig gan Sulwyn Thomas i lywio'r drafodaeth.
Mae hefyd i'w weld ar y teledu gyda rhaglenni fel Y Sioe Fach a Ffermio ac i'w glywed yn cyflwyno'r rhaglen Cymru Heddiw ar BBC Radio Cymru.
Ond cychwynnodd ei yrfa newyddiadurol yn Abertawe gyda'r Evening Post cyn symud ymlaen i TWW fel gohebydd ar raglen Y Dydd.
Symudodd wedyn at y BBC a'r rhaglen Heddiw.
Roedd yn gyfrifol am sefydlu gwasanaeth radio yn Ysbyty Glangwili.
"Mae dyn wedi bod yn gyndyn iawn i gymryd y math yma o anrhydedd mewn gwirionedd oherwydd dwi wedi gallu dod mas ohoni gan ddweud fy mod i'n holi pobol ynglyn â'r Orsedd ac mae 'na wahanol farn ynglyn â'r Orsedd ac felly dwi fod yn y canol," meddai wedi iddo dderbyn yr anrhydedd.
"Ond bellach does gen i ddim esgus a dwi hefyd yn hynod o falch i weld bod mwy o bobol sydd wedi gwrthryfela nawr yn cael eu derbyn a dwi'n falch o fod yn eu plith."
Derbyn y wisg wen y bydd seren y gyfres Honblower, yr actor o Gaerdydd, Ioan Gruffudd.
Yn enwog ar y sgrîn fach yng Nghymru ers yn ifanc iawn ar Bobol y Cwm, mae Ioan bellach yn gweithio yn Hollywood.
Ioan Gruffudd: Falch o'r anrhydedd
|
Roedd Ioan yn seren y ffilm Solomon a Gaenor.
Roedd ganddo ran hefyd yn Titanic, 102 Dalmations, The Forsyte Saga a Great Expectations.
Wrth dderbyn yr anrhydedd dywedodd yr actor ei fod yn ddiolchgar o'r anrhydedd yma.
"I gael fy anrhydeddu yn y fath fodd gan fy nghyd Gymry maen gwneud un yn ddiymhongar iawn.
"Mae cystadlu mewn eisteddfodau gan gynwnys yr Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn gychwyn da i fy ngyrfa.
"Dwi'n hynod o flach i fod yn Gymro a chael bod yn rhan o ddiwylliant a thraddodiad unigryw Cymru.
"Dwi'n gobeithio y bydd unrhyw lwyddiant a gaf fi neu fy nghyd actorion o Gymru yn fodd i godi ymwybyddiaeth gweddill y byd o Gymru."
Hefyd yn cael eu anrhydeddu y mae gwr a gwraig o Landegfan, Ynys Môn, sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr a gwerthfawr i Gymru.
Un o Bwllheli ydy Gwyneth Morus Jones ac o Lanuwchlyn y mae ei gwr Edward Morus Jones yn enedigol.
Bu'r ddau yn athrawon ac roedd Mr Jones yn brifathro Ysgol Gynradd Llandegfan cyn iddo ymddeol.
Mae'r ddau wedi bod yn weithagr iawn yn yr ardal yn enwedig gydag Eisteddfod Llandegfan am dros 25 mlynedd.
Maen nhw wedi bod yn weithgar gyda'r Eisteddfod ym Môn a'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd.
Mae'r ddau hefyd wedi bod yn weithgar iawn gyda Mudiad Ysgolion Meithrin ac Urdd Gobaith Cymru.
Bu'r ddau yn Lywyddion UCAC, yr unig dro i wr a gwraig ddal yr anrhydedd.
Mae eu dylanwad yn amrhisidwy yn yr ardal ac maen nhw wedi bod yn weithgar iawn yn eu bro.
Fe fydd y Cymry yma a Chymyr eraill yn cael eu hurddo i'r Orsedd mewn seremoniau yn ystod wythnos yr Eisteddfod ym Maldwyn ddechrau mis Awst.