Credir mai cleddyf ffug oedd hwn tan yn ddiweddar [llun: Enigma Galgano]
|
Dywed llyfr ysgolheig o'r Eidal mai o'r wlad honno y daeth hanes y cleddyf Caledfwlch ac nid o'r gwledydd Celtaidd.
Yn ôl Mario Moiraghi yn ei lyfr Enigma San Galgano, mae profion gwyddonol yn rhoi'r dyddiad 1189 i gleddyf mewn carreg sydd mewn abaty yn Tysgani.
Cleddyf yn Eidaleg yw "spada".
Ychwanega y cynhaliwyd ymchwiliad cyn canoneiddio Sant Galgano a chredir mai y fe roddodd y cleddyf yn y garreg.
Ond mae'r ffeithiau'n debyg iawn i hanes Syr Persefal, yr un ddarganfu'r Greal Sanctaidd.
Mewn llyfr blaenorol awgrymodd Mr Moiraghi fod rhai elfennau o hanesion Arthur wedi dod o Bersia.
Cedwir cleddyf Sant Galgano mewn abaty ger Sienna.
Does ond y carn ac ychydig o'r llafn i'w gweld yn gwthio allan o'r garreg.
Roedd Galgano yn farchog treisgar ac yn hoff o ferched ond penderfynodd fynd yn feudwy wedi iddo gael gweledigaeth o'r Iesu, Y Forwyn Fair a'r Apostolion.
A fentrodd y Brenin Arthur i'r Eidal?
|
Yn ôl y chwedl, gwthiodd y cleddyf i'r garreg wedi iddo benderfynu cael gwared ar ei holl eiddo.
Credid am hir mai un ffug oedd y cleddyf ond wedi gwaith ymchwil gan Brifysgol Pavia ddwy flynedd yn ôl dyddiwyd y cleddyf i'r 12fed ganrif.
Yn chwedlau Arthur tynnodd y brenin Caledfwlch o'r garreg fel prawf mai fe oedd brenin y Brythoniaid.
Credir mai chwedl a leolwyd yn y gwledydd Celtaidd oedd hon.
Dywed Mr Moiraghi fod bywyd Galgano wedi arwain at ddau fersiwn o stori'r Greal Sanctaidd.
Mae'r ddwy'n sôn am Syr Persefal ac yn adrodd hanes marchog yn goresgyn nifer o rwystrau.
Soniwyd am y cleddyf yma yn gyntaf yn y 13eg ganrif gan fardd Ffrengig.
Daeth hanes Arthur i sylw ehangach yn y 12fed ganrif pan sgwennodd Sieffre o Fynwy hanes y brenin yn seiliedig ar lawysgrifau Cymreig hynafol.