BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 7 Mehefin, 2003, 11:33 GMT 12:33 UK
Kabul:Ffrwydrad yn lladd heddgeidwaid
Mae heddlu'n gwarchod safle'r ffrwydrad yn Kabul
Fe wnaeth hofrennydd lanio gyda chymorth meddygol
Mae 'na ffrwydrad wedi bod ym mhrifddinas Afghanistan, Kabul.

Yn ôl adroddiadau, mae o leiaf pedwar o swyddogion llu cadw heddwch wedi cael eu lladd ac mae o leiaf wyth o bobol wedi cael eu hanafu yn yr ymosodiad.

Fe wnaeth car daro yn erbyn bws oedd yn cludo gweithwyr hedwch ryngwladol o'r Almaen.

Roedd grym y ffrwydrad wedi achosi i'r car gael ei daflu oddi ar y ffordd.

Fe ddigwyddodd hyn tua 5 cilomedr (3 milltir) i'r dwyrain o'r ddinas.

Fe ddigwyddodd y cyfan ger gwersyll oedd yn cael eu defnyddio gan luoedd Yr Almaen a'r Iseldiroedd o Lu Cynorthwyol Diogelwch Rhyngwladol (Isaf).

Mae swyddog o Weinyddiaeth Amddiffyn Yr Almaen wedi cadarnhau bod tri wedi marw ac mae'n bosib bod hyd at 30 o bobol wedi cael eu hanafu, gan gynnwys bobol oedd yn cerdded heibio ar y pryd.

Tacsi

Yn ôl swyddogion milwrol America, hunan fomiwr oedd yn gyfrifol am y ffrwydrad.

Roedd yn gyrru tacsi oedd yn llawn ffrwydron tuag at fws pryd y ffrwydrodd.

Roedd y ceidwaid heddwch yn teithio o'r maes awyr i'r gwersyll ar y pryd.

Milwyr Isaf o'r Almaen yn Kabul
Mae milwyr o'r Almaen yn rhan o'r llu cadw heddwch yn Kabul

Yn ôl adroddiadau roedd y ffordd lle digwyddodd y ffrwydrad yn un brysur gyda stondinau yn cael eu gosod ar hyd y palmentydd.

Yn ôl heddlu Kabul mae hyd at chwech o bobol wedi cael eu lladd ond doedd llefarydd ar ran lluoedd Isaf yn methu cadarnhau nifer y meirw.

Dywedodd bod ymchwiliad ar y gweill i ganfod achos y ffrwydrad.

Mae Isaf Prydain a Ffrainc wedi gosod rhwystrau ar y brif ffordd i Jalalabad ac mae hofrennydd Almaenig wedi hedfan i'r ardal i gynorthwyo gyda chymorth meddygol ac i gludo'r rhai sydd wedi cael eu hanafu i'r ysbytai.

Mae dros 5,000 o geidwad heddwch rhyngwladol wedi cael eu hanfon i gadw rheolaeth ar strydoedd Kabul ac i ddiogelu'r ddinas.

Mae'n rhy gynnar i ddweud pwy oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ond yn ôl swyddogion Afghan lleol mae'r bai yn cael ei roi ar y Taleban neu al-Qaeda.




HEFYD:
Blwyddyn ers bomio Afghanistan
07 Hyd 02  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^