BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 2 Mehefin, 2003, 15:35 GMT 16:35 UK
G8: Rhybudd i Iran a Gogledd Korea
Rhai o arweinwyr yr G8
Bu'r arweinwyr yn trafod sut i leihau tlodi yng ngwledydd y trydydd byd

Mae arweinwyr gwledydd yr G8 wedi rhybuddio Iran a Gogledd Korea i gydymffurfio â'r gyfraith ryngwladol sy'n ymwneud â'r diwydiant niwclear.

Maen nhw wedi annog arweinwyr y ddwy wlad i ddod ag unrhyw gynlluniau arfau niwclear i ben mewn modd agored.

Hwn oedd ail ddiwrnod uwchgynhadledd yr G8 yn Evian, Ffrainc, a bu arweinwyr wyth gwlad fwyaf pwerus y byd ac arweinwyr sawl gwlad arall yn trafod nifer o bynciau, gan gynnwys dyled gwledydd y Trydydd Byd, economi'r byd, masnach ryngwladol ac amddiffyn yr amgylchedd.

Mi gafodd globaleiddio ac economïau gwledydd sylw ganddyn nhw.

Trafodwyd sut i i leihau tlodi a sut i sicrhau gwell dwr a meddyginiaethau rhad yng ngwledydd y Trydydd Byd.

Ond roedd pryder y byddai'r berthynas fregus rhwng Prydain, America ac Ewrop yn amharu ar y trafodaethau ac y byddai effaith rhyfel Irac yn bwrw cysgod ar yr uwchgynhadledd.

Yno bu i Tony Blair, Prif Weinidog Prydain, a George Bush, Arlywydd America, gyfarfod ag arweinwyr Ffrainc a'r Almaen.

Yn ystod y cyfarfod cyntaf fore Llun roedd Mr Bush a Jacques Chirac, Arlywydd Ffrainc, yn bresennol.

Asesu

Dyma oedd y tro cyntaf i'r ddau drafod ers yr anghydfod ynglýn ag Irac.

Pan gyrhaeddodd Mr Bush Evian ddydd Sul ysgydwodd Mr Chirac ei law ac roedd gwên ar ei wyneb.

Roedd Mr Chirac yn erbyn y rhyfel am ei fod yn credu y dylid parchu'r gyfraith a'r sefydliadau rhyngwladol.

Mae'n debyg nad nad yw'r Americanwyr yn barod i faddau i Mr Chirac a Changhellor yr Almaen.

Oherwydd eu gwrthwynebiad ni chefnogodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig gynnig America a Phrydain cyn y rhyfel.

Mae disgwyl y bydd Mr Bush yn pwyso am weithredu pellach yn erbyn terfysgaeth a'r gwledydd sy'n cael eu hamau o ddatblygu arfau dinistriol.

Ond nid effaith y rhyfel yn Irac yw'r unig beth sy'n poeni'r arweinwyr.

Protestwyr

Wrth iddyn nhw gyfarfod yn Evian, mae ofnau am brotestwyr gwrth-gyfalafol.

Ers misoedd mae Ffrainc a'r Swistir wedi bod yn paratoi a sicrhau fod digon o swyddogion diogelwch ar gael i gadw'r heddwch.

Protestwyr yn malu ffenestri yn Geneva, Y Swistir
Bu degau o filoedd yn protestio

Mae 15,000 o blismyn yn bresennol ac mae rhai mannau wedi eu cau ond mae degau o filoedd o brotestwyr eisoes wedi cyrraedd yr ardal.

Bu protestiadau treisgar ddydd Sul yn Lausanne yn y Swistir a bu protestwyr yn taflu cerrig ar yr heddlu.

Mae protestiadau wedi bod yn ninas Genefa yn Y Swistir a thref Annemasse yn Ffrainc.

Mae'r protestwyr yn cynnwys ymgyrchwyr materion amgylcheddol ac anarchwyr sy'n credu nad yw'r arweinwyr yn y gynhadledd yn cynrychioli dinasyddion eu gwledydd.

Hefyd mae grwpiau newydd sy'n erbyn y rhyfel yn Irac.




GWYLIWCH A GWRANDEWCH
Craig Duggan ac Iolo ap Dafydd BBC Cymru
"Doedd fawr o gynhesrwydd..."



HEFYD:
G8: Protestwyr yn rhwystro ffordd
01 Meh 03  |  Newyddion
Blair: 'Dim amheuaeth' am arfau Irac
01 Meh 03  |  Newyddion
Perthynas Bush a Putin 'yn gryfach'
01 Meh 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^