Mae degau o filoedd i brotestwyr wedi teithio i'r ardal ar gyfer yr uwch gynhadledd
|
Mae protestwyr gwrth-gyfalafol wedi gwrthdaro â'r heddlu mewn trefi a dinasoedd ger tref Evian, lle mae arweinwyr wyth gwlad gyfoethocaf y byd wedi ymgasglu ar gyfer uwch-gynhadledd yr G8.
Mae awdurdodau Ffrainc a'r Swistir wedi creu cylch o 15km (10 milltir) o amgylch yr adeilad lle cynhelir yr uwch gynhadledd er mwyn ceisio atal y protestwyr rhag dod wyneb yn wyneb â'r gwleidyddion.
Ond fe geisiodd rhai protestwyr dorri'r cylch yn ogystal â cheisio rhwystro gwleidyddion rhag teithio i Evian o'r Swistir.
Fe ddaeth y protestiadau wrth i nifer o arweinwyr y byd gyrraedd y dref ddydd Sul ar gyfer yr uwch gynhadledd, cynhadledd na fydd ym marn y protestwyr yn llwyddo i ymdrin ag anghenion gwledydd tlawd y byd.
Fe ddigwyddodd rhai o'r protestiadau mwyaf treisgar ddydd Sul yn ninas Lausanne yn Y Swistir.
Nwy dagrau
Fe fu protestwyr, oedd yn gwisgo masgiau duon, yn taflu cerrig ar westy yno lle roedd rhai o wleidyddion yr uwch gynhadledd yn aros.
Hefyd fe aethant ati i rwystro'r ffyrdd.
Ymatebodd yr heddlu drwy ddefnyddio nwy dagrau i geisio chwalu'r protestwyr.
Cafodd un protestiwr ei anafu yn ddifrifol wedi iddo ddisgyn oddi ar ffordd uchel y tu allan i'r dref.
Mae ymchwiliad wedi dechrau i'r digwyddiad ac mae rhai yn honni fod yr heddlu wedi torri rhaff yr oedd y protestiwr yn ei ddefnyddio i ddringo i lawr o'r ffordd.
Yn Geneva fe fu protestwyr yn difrodi gorsaf betrol BP tra bu eraill yn atal prif bont y dref.
Gorymdeithio
Dros y ffin yn Ffrainc fe fu miloedd o brotestwyr yn ceisio gorymdeithio i Evian o dref Annemasse ond cawsant eu rhwystro gan yr heddlu a ddefnyddiodd nwy dagrau.
Ers misoedd fe fu Ffrainc a'r Swistir yn paratoi'r systemau diogelwch ar gyfer y digwyddiad ac mae miloedd o heddweision wedi eu galw o'r ddwy wlad i'r ardal yn ogystal â heddweision o'r Almaen.
Y gobaith yw osgoi'r trais a fu yn yr uwch gynhadledd yn Genoa, yr Eidal, ddwy flynedd yn ôl pan gafodd protestiwr o'r Eidal ei saethu'n farw gan yr heddlu.
Y gwledydd sydd yn rhan o'r G8 yw America, Japan, Yr Almaen, Prydain, Ffrainc, Yr Eidal, Canada a Rwsia.
Fe fydd yr uwch gynhadledd yn dod i ben ddydd Mawrth.