BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 15 Ebrill, 2003, 11:17 GMT 12:17 UK
Rhybudd America i Syria
Ysgrifennydd Gwladol America Donald Rumsfeld
Rumsfeld: Profion cemegol yn Syria

Mae gwledydd Arabaidd wedi ymuno gyda Rwsia a'r Undeb Ewropeaidd i feirniadu America am wneud bygythiadau yn erbyn Syria o ganlyniad i'r rhyfel yn Irac.

Dywedodd America eu bod yn bwriadu ystyried gosod sancsiynau economaidd, diplomataidd a rhai eraill na wnaethon nhw fanylu arnyn nhw yn erbyn Damascus petai'r Arlywydd Bashar al-Assad wedi methu chymryd yr hyn a ddisgrifiwyd fel y penderfyniad iawn.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Cynghrair y Gwledydd Arabaidd, Amr Musa, ei fod wedi cael ei ddychryn gan y bygythiadau.

Fe rybuddiodd llefarydd ar ran Yr Aifft hefyd yn erbyn yr hyn a alwodd yn ymosod ar wledydd Arabaidd un wrth un.

Yn gynharach fe wnaeth Rwsia a'r Undeb Ewropeaidd annog America i ddangos eu bod yn ffrwyno eu cysylltiadau gyda Syria sydd wedi cael eu cyhuddo o ddatblygu arfau cemegol a helpu swyddogion Iraciadd i ddianc.

Mae Syria yn gwadu cyhuddiadau America.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig hefyd wedi dweud ei fod yn bryderus am y datganiad diweddar ac am unrhyw ansefydlogrwydd yn y dyfodol yn y Dwyrain Canol.

'Terfysgwyr'

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol America, Colin Powell, bod yna sefyllfa newydd yn y Dwyrain Canol yn dilyn cwymp Saddam Hussein.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd yr holl wledydd yn y rhanbarth yn adolygu eu hymddygiad yn y gorffennol.

Yn l America mae Syria yn "wladwriaeth derfysgol" sydd ar restr America o wledydd sydd yn gefnogwyr i derfysgaeth.

Arlywydd George W Bush
Bush: Rhybudd i Syria beidio derbyn alltudwyr o Irac
Yn l Rwsia, all y datganiad gan America ddim ond cymhlethu a chythruddo pobol yr ardal yn ystod y cyfnod ar l y rhyfel yn Irac.

Cafodd sylw Rwsia ei ategu gan Weinidog Tramor Ffrainc, Dominique de Villepin, a ychwanegodd bod trafodaeth yn allweddol.

Gwrthod ateb unrhyw gwestiwn wnaeth llefarydd yr Arlywydd, Ari Fleisher, yn y T Gwyn ddydd Llun, a'i Syria fydd ymosodiad nesaf America.

Ond gwadu'r honiadau wnaeth Ysgrifennydd Tramor Prydain, Jack Straw.

Mae'r tensiwn rhwng Syria ac America wedi bod o dan straen ers i America gefnogi Israel a Syria'n cefnogi'r mudiad Lebanaidd Hezbolla.

Mae America yn credu bod y mudiad yma a mudiadau Palesteinaidd eraill yn "derfysgwyr".




HEFYD:
Americanwr i arwain Irac ar l Saddam
14 Ebr 03  |  Newyddion
Achub carcharorion rhyfel
14 Ebr 03  |  Newyddion
Trafod dyfodol Irac
15 Ebr 03  |  Newyddion
Cipio tre enedigol Saddam
14 Ebr 03  |  Newyddion
Straw: 'Nid Syria yw'r targed nesa'
14 Ebr 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^