BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 15 Ebrill, 2003, 09:54 GMT 10:54 UK
Trafod dyfodol Irac
Moslemiaid Shia yn dathlu gwyl grefyddol
Mae 'na rwygiadau rhwng plaid Moslemiaid Shia ac America
Gyda'r ymladd yn Irac yn tynnu at ei derfyn mae 'na ymdrechion ar y gweill i sefydlu llywodraeth newydd yn y wlad.

Gyda America yn cydnabod bellach bod y brwydro yn Irac yn dod i ben mae'r wlad yn barod i drafod gyda phleidiau gwleidyddol Irac sefydlu llywodraeth newydd yn dilyn cwymp gweinyddiaeth Saddam Hussein.

Mae'r cyfarfodydd cyntaf hefo'r gwrthbleidiau Iracaidd eisoes wedi eu trefnu, a bydd un ohonyn nhw'n cael ei gynnal ddydd Mawrth mewn maes awyr yn Nasiriya.

Fe fydd cynrychiolwyr America a gwahanol pleidiau yn Irac yn cyfarfod am y tro cyntaf.

Fe fydd cynrychiolwyr pleidiau sydd wedi cael eu halltudio o Irac yn cael eu hedfan i'r ardal i drafod gyda arweinwyr llwythau lleol ac arweinwyr crefyddol.

Yn ôl America, dyma'r cyntaf o nifer o gyfarfodydd cyn y bydd y llywodraeth dros dro yn cael ei sefydlu.

Yn ôl Washington y broses o weinyddu'r wlad ddylid ei drafod, a nid personoliaethau.

O Afghanistan i Irac

Yn ôl un o ohebwyr y BBC yn Kuwait, Malcolm Barbant, mae 'na bryder y bydd y dathlu ar ôl dymchweliad gweinyddiaeth Saddam Hussein yn troi yn wrthwynebiad o'r hyn gaiff ei sefydlu gan America.

Cadeirydd y cyfarfod fydd cennad arbennig America, Zalmay Khalilzad, oedd yn gyfrifol am gyfarfod tebyg yn dilyn dymchwel gweinyddiaeth y Taleban yn Afghanistan.

Jay Garner, Cadfridog Americanaidd wedi ymddeol fydd yn arwain y llywodraeth dros dro ac fe fydd o hefyd yn y cyfarfod.

Ond mae 'na broblemau cyn dechrau, gyda un o'r prif bleidiau Moslemiaid Shia yn dweud y byddan nhw'n boicotio'r trafodaethau.

Mae'n dal yn aneglur ar hyn o bryd pa rôl fydd y Cenhedloedd Unedig yn ei gael gan America yn y broses o greu llywodraeth newydd yn Irac.

Dywedodd y Cadfridog Garner bod yr hyn sy'n digwydd yn nhre borthladd Umm Qasr yn ddrych i'r broses drwy'r wlad.

Yn syml, mae'n na ymgais i fagu cysylltiadau efo hynafiad y ddinas, gan annog y rhai hynny i hyrwyddo democratiaeth.

Ond fydd y gwrthbleidiau i gyd ddim yn cymryd rhan yn y trafodaethau yn Nasiriya.




HEFYD:
Cipio tre enedigol Saddam
14 Ebr 03  |  Newyddion
Blair: 'Heddwch yw'r her'
14 Ebr 03  |  Newyddion
Aelodau Baath i ailadeiladu Irac
13 Ebr 03  |  Newyddion
Effaith y rhyfel ar bapurau newydd
15 Ebr 03  |  Newyddion
Rhybudd America i Syria
15 Ebr 03  |  Newyddion


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^